xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Trethi, Cymru
Gwnaed
11 Ionawr 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 194(2) a (3) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2018.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 25 Ionawr 2018—
(a)adran 25 (talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol Cymru);
(b)adran 26 (Siarter safonau a gwerthoedd);
(c)Rhan 4 (pwerau ymchwilio ACC), ac eithrio adrannau 82 (trosolwg o Ran 4) a 101(3) a (4) (pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â diogeliad ar gyfer gohebiaeth freintiedig);
(d)Pennod 5 o Ran 5 (cosbau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau);
(e)adran 154 (talu cosbau);
(f)adran 155 (gwahardd cosbi ddwywaith);
(g)adrannau 160 i 162 (darpariaeth mewn perthynas â llog);
(h)Rhan 7 (talu a gorfodi), ac eithrio adran 167 (ffioedd talu);
(i)Rhan 8 (adolygiadau ac apelau), ac eithrio adran 171 (trosolwg o Ran 8); a
(j)Rhan 9 (ymchwilio i droseddau).
3. Daw unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf nad yw wedi ei chychwyn cyn 1 Ebrill 2018 i rym ar y dyddiad hwnnw.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
11 Ionawr 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf i rym ar 25 Ionawr 2018. Mae’r darpariaethau hyn yn ymwneud ag:
(a)talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol Cymru;
(b)y Siarter safonau a gwerthoedd;
(c)pwerau ymchwilio sifil Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”);
(d)cosbau sifil sy’n ymwneud ag ymchwiliadau;
(e)llog;
(f)talu a gorfodi;
(g)adolygiadau ac apelau; ac
(h)ymchwiliadau i droseddau gan ACC.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf nad yw wedi ei chychwyn cyn 1 Ebrill 2018 ar y dyddiad hwnnw.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 2 i 20 | 18 Hydref 2017 | 2017/954 (Cy. 241) (C. 88) |
Adran 21(1) | 18 Hydref 2017 | 2017/954 (Cy. 241) (C. 88) |
Adran 22 | 18 Hydref 2017 | 2017/954 (Cy. 241) (C. 88) |
Adran 23 | 18 Hydref 2017 | 2017/954 (Cy. 241) (C. 88) |
Adran 27 | 18 Hydref 2017 | 2017/954 (Cy. 241) (C. 88) |
Adran 29 | 18 Hydref 2017 | 2017/954 (Cy. 241) (C. 88) |
Adrannau 33 i 35 | 18 Hydref 2017 | 2017/954 (Cy. 241) (C. 88) |
Adran 66 | 18 Hydref 2017 | 2017/954 (Cy. 241) (C. 88) |
Adran 69(3) a (4) | 18 Hydref 2017 | 2017/954 (Cy. 241) (C. 88) |
Adran 101(3) a (4) | 18 Hydref 2017 | 2017/954 (Cy. 241) (C. 88) |
Adran 163 | 18 Hydref 2017 | 2017/954 (Cy. 241) (C. 88) |
Adran 167 | 18 Hydref 2017 | 2017/954 (Cy. 241) (C. 88) |
Gweler hefyd adran 194(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 21 Ebrill 2016 (y diwrnod drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol).