Gorchymyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2018
Enwi a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2018.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 25 Ionawr 20182.
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 25 Ionawr 2018—
(a)
adran 25 (talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol Cymru);
(b)
adran 26 (Siarter safonau a gwerthoedd);
(c)
Rhan 4 (pwerau ymchwilio ACC), ac eithrio adrannau 82 (trosolwg o Ran 4) a 101(3) a (4) (pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â diogeliad ar gyfer gohebiaeth freintiedig);
(d)
Pennod 5 o Ran 5 (cosbau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau);
(e)
adran 154 (talu cosbau);
(f)
adran 155 (gwahardd cosbi ddwywaith);
(g)
adrannau 160 i 162 (darpariaeth mewn perthynas â llog);
(h)
Rhan 7 (talu a gorfodi), ac eithrio adran 167 (ffioedd talu);
(i)
Rhan 8 (adolygiadau ac apelau), ac eithrio adran 171 (trosolwg o Ran 8); a
(j)
Rhan 9 (ymchwilio i droseddau).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 20183.
Daw unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf nad yw wedi ei chychwyn cyn 1 Ebrill 2018 i rym ar y dyddiad hwnnw.
Y Gorchymyn hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf i rym ar 25 Ionawr 2018. Mae’r darpariaethau hyn yn ymwneud ag:
talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol Cymru;
y Siarter safonau a gwerthoedd;
pwerau ymchwilio sifil Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”);
cosbau sifil sy’n ymwneud ag ymchwiliadau;
llog;
talu a gorfodi;
adolygiadau ac apelau; ac
ymchwiliadau i droseddau gan ACC.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf nad yw wedi ei chychwyn cyn 1 Ebrill 2018 ar y dyddiad hwnnw.
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adrannau 2 i 20 | 18 Hydref 2017 | |
Adran 21(1) | 18 Hydref 2017 | |
Adran 22 | 18 Hydref 2017 | |
Adran 23 | 18 Hydref 2017 | |
Adran 27 | 18 Hydref 2017 | |
Adran 29 | 18 Hydref 2017 | |
Adrannau 33 i 35 | 18 Hydref 2017 | |
Adran 66 | 18 Hydref 2017 | |
Adran 69(3) a (4) | 18 Hydref 2017 | |
Adran 101(3) a (4) | 18 Hydref 2017 | |
Adran 163 | 18 Hydref 2017 | |
Adran 167 | 18 Hydref 2017 |
Gweler hefyd adran 194(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 21 Ebrill 2016 (y diwrnod drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol).