Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 25 Ionawr 2018

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 25 Ionawr 2018—

(a)adran 25 (talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol Cymru);

(b)adran 26 (Siarter safonau a gwerthoedd);

(c)Rhan 4 (pwerau ymchwilio ACC), ac eithrio adrannau 82 (trosolwg o Ran 4) a 101(3) a (4) (pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â diogeliad ar gyfer gohebiaeth freintiedig);

(d)Pennod 5 o Ran 5 (cosbau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau);

(e)adran 154 (talu cosbau);

(f)adran 155 (gwahardd cosbi ddwywaith);

(g)adrannau 160 i 162 (darpariaeth mewn perthynas â llog);

(h)Rhan 7 (talu a gorfodi), ac eithrio adran 167 (ffioedd talu);

(i)Rhan 8 (adolygiadau ac apelau), ac eithrio adran 171 (trosolwg o Ran 8); a

(j)Rhan 9 (ymchwilio i droseddau).