Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 25 Ionawr 20182

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 25 Ionawr 2018—

a

adran 25 (talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol Cymru);

b

adran 26 (Siarter safonau a gwerthoedd);

c

Rhan 4 (pwerau ymchwilio ACC), ac eithrio adrannau 82 (trosolwg o Ran 4) a 101(3) a (4) (pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â diogeliad ar gyfer gohebiaeth freintiedig);

d

Pennod 5 o Ran 5 (cosbau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau);

e

adran 154 (talu cosbau);

f

adran 155 (gwahardd cosbi ddwywaith);

g

adrannau 160 i 162 (darpariaeth mewn perthynas â llog);

h

Rhan 7 (talu a gorfodi), ac eithrio adran 167 (ffioedd talu);

i

Rhan 8 (adolygiadau ac apelau), ac eithrio adran 171 (trosolwg o Ran 8); a

j

Rhan 9 (ymchwilio i droseddau).