(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 er mwyn darparu bod Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) i’w drin fel “central government authority” at ddibenion y Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn darparu bod ACC i’w drin fel “relevant Welsh authority” at ddibenion y Ddeddf honno.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 er mwyn darparu bod cadeirydd ac aelodau anweithredol ACC wedi eu hanghymhwyso rhag dod yn aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae rheoliad 5 yn diwygio Deddf Enillion Troseddau 2002 er mwyn gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad ag adran 186 (enillion troseddau) o’r Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.