NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer parhau i weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/113/EC ynghylch jamiau, jelïau a marmaledau ffrwythau a phiwrî castan a felyswyd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t. 67). Maent hefyd yn cadw mesurau cenedlaethol presennol ynglŷn â cheuled, ceuled lemon a briwfwyd. Mae’r Rheoliadau’n dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004 (O.S. 2004/553 (Cy. 56)).

Mae rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn rheoleiddio defnyddio’r enwau “jam”, “jam ecstra”, “jeli”, “jeli ecstra”, “marmalêd”, “marmalêd jeli”, “piwrî castan a felyswyd”, “ceuled”, “ceuled lemon” a “briwfwyd”. Yn ddarostyngedig i eithriad, dim ond os yw’r cynnyrch yn bodloni’r gofynion yn y rhan berthnasol o Atodlen 1 y caniateir i’r enwau hyn gael eu defnyddio.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fanylion gael eu dangos ynglŷn â jam, jam ecstra, jeli, jeli ecstra, marmalêd, marmalêd jeli a phiwrî castan a felyswyd. Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i enw’r cynnyrch ddangos y mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd i weithgynhyrchu’r cynnyrch, mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i labeli’r cynnyrch ddangos ei gynnwys ffrwythau, mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i labeli’r cynnyrch ddangos cyfanswm ei gynnwys siwgr, ac mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â sylffwr deuocsid gweddilliol.

Mae rheoliad 9 yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau bwyd i orfodi’r Rheoliadau.

Mae rheoliad 10 ac Atodlen 5 yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990, gydag addasiadau. Mae hyn yn cynnwys cymhwyso, gydag addasiadau, adran 10(1), gan alluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i’w gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â darpariaethau penodedig yn y Rheoliadau hyn, a chymhwyso adran 10(2), sy’n gwneud methiant i gydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd.

Mae rheoliad 11 yn dirymu Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004 ac yn gwneud dirymiad canlyniadol ar ddarpariaeth yng Ngorchymyn Cytuniad Lisbon (Newidiadau mewn Terminoleg neu Rifau) 2012 (O.S. 2012/1809).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.