Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu bod cyfeiriadau at ymchwilwyr ariannol achrededig yn Neddf Enillion Troseddau 2002 (“y Ddeddf”) i’w darllen fel cyfeiriadau at ymchwilwyr ariannol achrededig sy’n aelodau o staff Awdurdod Cyllid Cymru.
Mae’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn nodi’r pwerau y gall ymchwilydd ariannol achrededig eu harfer o dan y Ddeddf.
Caiff ymchwilwyr ariannol achrededig wneud cais am orchmynion atal o dan Ran 2 o’r Ddeddf a chânt ymafael mewn eiddo y mae unrhyw orchymyn atal o’r fath yn gymwys iddo. Caiff ymchwilwyr ariannol achrededig hefyd chwilio am arian parod, ymafael ynddo, ei gadw a gwneud cais i’w fforffedu o dan Bennod 3 o Ran 5 o’r Ddeddf. Cyn arfer pwerau chwilio, rhaid iddynt (oni bai ei bod yn anymarferol gwneud hynny o dan yr amgylchiadau) gael cymeradwyaeth ymlaen llaw oddi wrth naill ai ynad heddwch neu uwch-swyddog y mae’n rhaid iddo hefyd fod yn ymchwilydd ariannol achrededig. Caiff ymchwilwyr ariannol achrededig hefyd wneud cais am orchmynion a gwarantau mewn perthynas ag ymchwiliadau atafaelu, gwyngalchu arian ac arian parod dan gadwad o dan Ran 8 o’r Ddeddf at ddibenion, ymysg pethau eraill, ei gwneud yn ofynnol i berson penodedig gyflwyno deunyddiau penodol; caniatáu chwiliad o fangre benodedig ac ymafael mewn deunyddiau ynddi a’i gwneud yn ofynnol i sefydliad ariannol ddarparu gwybodaeth cwsmeriaid sy’n ymwneud â pherson penodedig. Ymchwilydd ariannol achrededig yn unig, sydd, gan ddibynnu ar natur y gorchymyn neu’r warant, naill ai’n berson priodol, yn swyddog priodol neu’n uwch-swyddog priodol, gaiff wneud cais am y pwerau o dan orchmynion neu warantau o’r fath a/neu eu harfer.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.