53. Yn adran 70(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, yn lle’r diffiniad o “cartref gofal” rhodder—
“O ran “cartref gofal” (“care home”)—
mae iddo’r un ystyr ag a roddir i “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â chartref gofal yn Lloegr, a
ei ystyr yw man yng Nghymru lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) yn cael ei ddarparu;”.