NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol pan fo’n briodol at ddibenion y Ddeddf.

Mae’r Rheoliadau yn ymdrin â diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n codi o gychwyn y darpariaethau yn Rhan 1 o’r Ddeddf sy’n ymwneud â rheoleiddio cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau cymorth cartref yng Nghymru. Mae’r rhain yn enghreifftiau o’r hyn y mae’r Ddeddf yn cyfeirio ato fel “gwasanaethau rheoleiddiedig”.

Mae pob un o’r rhain yn wasanaethau sydd wedi eu rheoleiddio o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”). Mae llawer o’r diwygiadau felly yn rhoi cyfeiriadau at y math priodol o “gwasanaeth rheoleiddiedig” o dan y Ddeddf yn lle cyfeiriadau at un o’r mathau o sefydliad neu asiantaeth a oedd wedi eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2000.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn cynnwys un diwygiad a wneir o dan adran 198 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae rheoliad 52 yn diwygio adran 86 o Ddeddf 2014 i ddileu geiriad sy’n awgrymu bod angen i lety sy’n cael ei ddarparu, ei gyfarparu neu ei gynnal gan Weinidogion Cymru ar gyfer plant sy’n derbyn gofal fod o angenrheidrwydd yn gartref plant.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.