Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2016.
Mae adran 80(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru gadw cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad a bennir gan Weinidogion Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu disgrifiad ychwanegol o weithwyr gofal cymdeithasol y mae rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru gadw cofrestr mewn cysylltiad â hwy, sef y rheini sydd wedi eu cyflogi neu wedi eu cymryd ymlaen gan wasanaeth cymorth cartref rheoleiddiedig i ddarparu gofal a chymorth i bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraff 8 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.