xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENNI

Rheoliad 9(1)(a)

ATODLEN 2LL+CCategorïau o fyfyrwyr cymwys

Categori 1 – Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas UnedigLL+C

1.—(1Person—

(a)sydd F1...—

[F2(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac nad yw’n dod o fewn is-baragraff (2), a]

(ii)yn preswylio fel arfer yng Nghymru [F3ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs],

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(c)na fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (b), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 9(2)).

(2Person—

[F4(a)sy’n bodloni un o’r amodau a ganlyn—

(i)mae’r person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio,

(ii)o ran y person—

(aa)mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion,

(bb)mae’n ddinesydd Gwyddelig sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, ac

(cc)byddai’n bodloni’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pe bai’r person hwnnw yn gwneud cais am ganiatâd o’r fath,

F5(iii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(iv)o ran y person—

(aa)mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion,

(bb)mae’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 [F6neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (5)], ac

(cc)mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod perthnasol [F7neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (5)], neu

(v)mae’r person yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo’r aelod hwnnw o’r teulu wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio,]

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

[F8(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—

(i)y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)y tiriogaethau tramor.]

[F9(3) Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig F10... ac nad yw’n dod o fewn is-baragraff (2),

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs [F11ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw], F11 F11...

(d)na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)) [F11ac]

[F12(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn y cwrs presennol]

(4) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(ii)(cc), ystyr “gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yw’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd o’r fath yn unol â pharagraff EU11 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo.]

[F13(5) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—

(a)Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE,

(b)Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020), neu

(c)Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.]

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn Atod. 2 para. 1(1)(a) wedi eu hepgor (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 2(1)(a) o'r O.S. sy'n diwygio) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/16), rhlau. 1(2), 27(a)

F3Geiriau yn Atod. 2 para. 1(1)(a)(ii) wedi eu mewnosod (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 2(1)(a) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/16), rhlau. 1(2), 27(b)

F5Atod. 2 para. 1(2)(a)(iii) wedi ei hepgor (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy'n diwigio) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/79), rhlau. 1(2), 55

F10Geiriau yn Atod. 2 para. 1(3)(a) wedi eu hepgor (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 2(1)(a) o'r O.S. sy'n diwygio) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/16), rhlau. 1(2), 27(c)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Categori 2 – Ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoeddLL+C

2.—(1Person—

(a)sy’n ffoadur,

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r person gael ei gydnabod yn ffoadur, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i ffoadur,

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches,

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur,

(b)ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, a oedd yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw,

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches,

(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, ac

(e)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Categori 2ZA - Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoeddLL+C

[F142ZA.(1) Person—

(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil a ddiogelir,

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo),

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)sy’n blentyn a ddiogelir,

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)o dan 18 oed, a

(ii)yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir ar y dyddiad hwnnw (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, caniatâd i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo neu adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 a’r rheolau mewnfudo, yn ôl y digwydd),

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,

(b)ystyr “caniatâd i ddod i mewn neu i aros fel person a ddiogelir” yw—

(i)person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo,

(ii)person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,

(iii)person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, F15...

(iv)person sydd â chaniatâd Calais, [F16neu]

[F17(v)person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan,]

(c)ystyr “person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo,

(d)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros ar sail caniatâd fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo,

(e)ystyr “person sydd â chaniatâd Calais” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros o dan baragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo (caniatâd Calais a “caniatâd oherwydd llinach” a roddir yn rhinwedd bod yn blentyn dibynnol i berson y rhoddwyd caniatâd Calais iddo),

[F18(ea)ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” yw person—

(i)[F19y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 276BS2 o’r rheolau mewnfudo,]

F20(ia). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F21(ib)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.1 o Atodiad Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid i’r rheolau mewnfudo neu ganiatâd amhenodol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff ARAP 6.2 o’r Atodiad hwnnw i’r rheolau mewnfudo,]

(ii)y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu ganiatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid, [F22neu]

(iii)y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i’r rheolau mewnfudo ar sail y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan, F23...]

F23(iv). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(f)ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo,

(g)ystyr “plentyn a ddiogelir” yw—

(i)plentyn i—

(aa)person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo,

(ab)person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, F24...

(ac)person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, neu

[F25(ad)person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan, neu]

(ii)plentyn i briod neu bartner sifil—

(aa)person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo, F26...

(ab)person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,[F27neu

(ac)person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan,]

(h)ystyr “priod neu bartner sifil a ddiogelir” yw priod neu bartner sifil i—

(i)person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo, F28...

(ii)person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth [F29, neu]

[F30(iii)person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan.]]

Diwygiadau Testunol

F15Gair yn Atod. 2 para. 2ZA(4)(b) wedi ei hepgor (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy'n diwigio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/79), rhlau. 1(2), 38(a)(i)

F16Gair yn Atod. 2 para. 2ZA(4)(b)(iii) wedi ei fewnosod (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy'n diwigio) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/79), rhlau. 1(2), 38(a)(i)

[F31Categori 2ZB - Personau y rhoddwyd [F32caniatâd iddynt ddod i mewn neu aros] fel partner a ddiogelir a’u plantLL+C

2ZB.(1) Person—

(a)y rhoddwyd [F33caniatâd iddo ddod i mewn neu aros] fel partner a ddiogelir,

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd [F34caniatâd iddo ddod i mewn neu aros] fel partner a ddiogelir,

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i berson y rhoddwyd [F35caniatâd iddo ddod i mewn neu aros] fel partner a ddiogelir,

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd [F36caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi], a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd [F37caniatâd iddo ddod i mewn neu aros] fel partner a ddiogelir,

(b)ystyr “person y rhoddwyd [F38caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel partner a ddiogelir]” yw person [F39y mae ganddo ganiatâd cyfredol] [F40 i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi] naill ai fel dioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig neu fel partner sydd wedi cael profedigaeth [F41, a roddwyd] [F42o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r rheolau mewnfudo a bennir yn y naill neu’r llall o’r achosion a ganlyn]

[F43Achos 1

Yn achos person y rhoddwyd caniatâd iddo aros cyn 31 Ionawr 2024, unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—]

(i)paragraffau 289B a 289D (dioddefwyr trais domestig),

(ii)paragraffau D-DVILR.1.1. a D-DVILR.1.2. o Atodiad FM (dioddefwyr cam-drin domestig),

(iii)paragraffau 40 ac 41 o Atodiad Lluoedd Arfog (dioddefwyr trais domestig sy’n bartneriaid i aelodau o’r lluoedd arfog),

(iv)paragraff 288, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 287(b) o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (priodau neu bartneriaid sifil sydd wedi cael profedigaeth),

(v)paragraffau D-BPILR.1.1 a D-BPILR.1.2 o Atodiad FM (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth),

(vi)paragraffau 36 a 37 o Atodiad Lluoedd Arfog (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth), neu

(vii)paragraff 295N, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 295M o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (partneriaid di-briod neu bartneriaid o’r un rhyw sydd wedi cael profedigaeth).

[F44Achos 2

Yn achos person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros ar neu ar ôl 31 Ionawr 2024, y naill neu’r llall o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—

(i)

paragraff VDA 9.1 o’r Atodiad Dioddefwr Cam-drin Domestig, neu

(ii)

paragraff BP 11.1 o’r Atodiad Partner sydd wedi cael Profedigaeth.]]

Diwygiadau Testunol

[F45Categori 2ZC – Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelirLL+C

2ZC.(1) Person—

(a)sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

[F46(1A) Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw,

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(1B) Person—

(a)sydd—

(i)yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, neu

(ii)yn blentyn i briod neu bartner sifil gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)o dan 18 oed, a

(ii)yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.]

(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” yw person [F47y mae ganddo ganiatâd cyfredol] i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi [F48a roddwyd]

(a)[F49o dan Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo, yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r cynlluniau a ganlyn—

(i)y Cynllun Teuluoedd o Wcráin;

(ii)y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin;

(iii)y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin;

(iv)Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin,] neu

(b)y tu allan i’r rheolau mewnfudo—

(i)pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a

(ii)pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.]

[F50(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir.]

Categori 2A - Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoeddLL+C

F512A.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Categori 3 – Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoeddLL+C

3.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,

(b)[F52a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar [F53ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros],]

(i)y cais am loches, neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches,

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy’n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,

(b)[F54a oedd, ar [F55ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros], o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw,]

(i)y cais am loches, neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches,

o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw,

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4Yn y paragraff hwn, ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw person (“P”)—

[F56(a)sydd—

(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn cymhwyso i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail [F57caniatâd] yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny,

(ii)heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny,

[F58(iia)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;]

(iii)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo,

(iv)wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn cymhwyso i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat [F59neu deuluol] o dan y rheolau mewnfudo, fod P wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol,]

(c)nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben, neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben, neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i P gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros.

[F60(5) Yn y paragraff hwn, ystyr “[F61dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros]” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.]

Diwygiadau Testunol

F56Atod. 2 para. 3(4)(a) wedi ei amnewid ar gyfer Atod. 2 para. 3(4)(a)(b) (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 16(b)(iii)

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Categori 3A – Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67LL+C

F623A.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Categori 4 – Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd [F63— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021] LL+C

4.—(1Person—

(a)sy’n un o’r canlynol—

(i)gweithiwr mudol AEE neu berson hunangyflogedig AEE, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ii)gweithiwr cyflogedig Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(iii)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(iv)gweithiwr trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE;

(v)person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd;

(vi)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v), a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F64Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F65Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symudiad rhydd ar gyfer gweithwyr yn yr Undeb [F66(“y Rheoliad Gweithwyr”), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,]

[F67(d)at ddibenion paragraff (c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr mae’r cyfeiriad at “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.]

[F68(2A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (2) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.]

(3Yn is-baragraff (1) [F69ac is-baragraff (1) o baragraff 4A]

ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw—

(a)

mewn perthynas â gweithiwr trawsffiniol AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunangyflogedig trawsffiniol AEE [F70, person hunangyflogedig AEE neu berson perthnasol o Ogledd Iwerddon sy’n cael ei drin fel pe bai’n weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE yn rhinwedd paragraff 4A(4)]

(i)

priod y person neu ei bartner sifil,

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd o dan 21 oed neu sy’n 21 oed neu drosodd ac sy’n ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person, neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;

(b)

mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

(i)

priod y person neu ei bartner sifil, neu

(ii)

plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;

ystyr “gweithiwr mudol AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gweithiwr trawsffiniol AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn AEE sydd—

(a)

yn weithiwr yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F71... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(a)

yn berson cyflogedig yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F71... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn AEE sydd—

(a)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE F71... ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(a)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE, F71..., ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos.

(4At ddibenion is-baragraff (3)—

ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

ystyr “gwladolyn AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE F72...;

ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—

(a)

mewn perthynas â gwladolyn AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd, neu

(b)

mewn perthynas â gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir.

Diwygiadau Testunol

F63Geiriau ym mhennawd Atod. 2 para. 4 wedi eu mewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 133(a)

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

[F73Categori 4A - Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd sydd â hawliau gwarchodedigLL+C

4A.(1) Person sydd â hawliau gwarchodedig neu weithiwr trawsffiniol o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020—

(a)sy’n un o’r canlynol—

(i)gweithiwr mudol AEE neu berson hunangyflogedig AEE, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(ii)person cyflogedig Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(iii)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(iv)gweithiwr trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE,

(v)person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd, neu

(vi)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v), a

[F74(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor, pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.]

(2) Person sydd â hawliau gwarchodedig—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

[F75(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, ac]

(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar symudiad rhydd ar gyfer gweithwyr o fewn yr Undeb (“y Rheoliad Gweithwyr”), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(3) At ddibenion is-baragraff (2)(c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr—

(a)mae’r cyfeiriad at “national of a Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon, a

(b)mae’r cyfeiriad ar “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig, ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

(4) Yn y paragraff hwn, mae disgrifiad o berson yn is-baragraff (1)(a)(i) i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai, pe bai’r person hwnnw yn wladolyn AEE neu’n wladolyn AEE yn unig, yn weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE.]

Categori 5 – Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall [F76— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021] LL+C

5.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig,

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio [F77cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu] ,

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau,

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F78Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(e)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (d), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F79Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (d).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys i’r person.

(3Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd—

(a)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig,

(b)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir), neu

(c)yn berson [F80yr oedd ganddo’r hawl] i breswylio’n barhaol,

sydd wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig [F81ac yr oedd ganddo’r hawl] i breswylio’n barhaol,a

(b)[F82sydd wedi mynd] i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir y mae P yn wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae P yn aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.

F83(5. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F84(6) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.]

Diwygiadau Testunol

F76Geiriau ym mhennawd Atod. 2 para. 5 wedi eu mewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 135(a)

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

[F85Categori 5A - Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arallLL+C

5A.(1) Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig,

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,

(c)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio Gibraltar, yr AEE a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fydd y cwrs yn dechrau,

(e)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(f)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (e) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (e).

(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys i’r person.

(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd—

(a)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig,

(b)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir), neu

(c)yn berson yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, sydd wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

(4) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson (“P”) sydd—

(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, a

(b)wedi mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir y mae P yn wladolyn ohoni, neu y mae’r person y mae P yn aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.

(5) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.]

Diwygiadau Testunol

Categori 6 – Gwladolion UE [F86— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021] LL+C

6.—(1Person—

[F87(a)sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)yn wladolyn UE,

(ii)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio, neu

(iii)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii),]

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F88Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F89Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

[F90(1A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (1) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.]

(2Person—

(a)sy’n wladolyn UE F91... ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F92Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(3Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad yn is-baragraff (1)(a) neu (2)(a) fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

[F93(4) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi preswylio yn Gibraltar neu wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.]

F94(5. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F86Geiriau ym mhennawd Atod. 2 para. 6 wedi eu mewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 137(a)

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

[F95Categori 6A - Gwladolion UE etc. sydd â hawliau gwarchodedigLL+C

6A.(1) Person sydd â hawliau gwarchodedig—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(ii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i), neu

(iii)yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon,

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, F96... yr AEE[F97, y Swistir a’r tiriogaethau tramor] drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, F98... yr AEE[F99, y Swistir a’r tiriogaethau tramor] yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

(2) Person sydd â hawliau gwarchodedig—

(a)sy’n wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn [F100preswylio fel arfer yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn y diriogaeth sy’n ffurfio—

(i)y Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)y tiriogaethau tramor.]

Categori 6B – Gwladolion o’r Deyrnas UnedigLL+C

6B.(1) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, neu

(ii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i),

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(e)na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

(2) Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) a (d).

Diwygiadau Testunol

[F101Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r SwistirLL+C

6BA.(1) Person—

(a)sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir, neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd—

(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu

(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 9(2).]

[F102Categori 6BB – Personau o’r tiriogaethau tramor Prydeinig sydd wedi setloLL+C

6BB.(1) [F103Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), ] Person—

(a)sydd

[F104(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig F105...,] [F106 neu

(ii)yn ddinesydd Prydeinig—

(aa)a anwyd yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India neu, cyn 8 Tachwedd 1965, yn yr ynysoedd hynny a ddynodwyd yn Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India ar y dyddiad hwnnw, neu

(bb)sy’n ddisgynnydd uniongyrchol person a anwyd yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India neu, cyn 8 Tachwedd 1965, yn yr ynysoedd hynny a ddynodwyd yn Diriogaeth Brydeinig Cefnfor India ar y dyddiad hwnnw,]

(b)sydd—

(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu

(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig am o leiaf ran o’r cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol, ac

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig yn unol â pharagraff 9(2).

[F107(3) At ddibenion paragraffau (c) a (d) o is-baragraff (1), trinnir person a grybwyllir ym mharagraff (a)(ii) o is-baragraff (1) fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig mewn unrhyw gyfnod cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs nad yw’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig na’r Ynysoedd ynddi.

(4) Nid yw paragraffau (e) ac (f) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a grybwyllir ym mharagraff (a)(ii) o’r is-baragraff hwnnw.]]

Diwygiadau Testunol

F103Geiriau yn Atod. 2 para. 6BB(1) wedi eu mewnosod (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 2(2) o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/16), rhlau. 1(2), 24(a)(i)

F104Geiriau yn Atod. 2 para. 6BB(1)(a)(i) yn Atod. 2 para. 6BB(1)(a) wedi eu ailrifo fel Atod. 2 para. 6BB(1)(a)(i) (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 2(2) o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/16), rhlau. 1(2), 24(a)(ii)

F105Geiriau yn Atod. 2 para. 6BB(1)(a)(i) wedi eu hepgor (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 2(1)(a) o'r O.S. sy’n diwygio) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/16), rhlau. 1(2), 27(d)

F106Atod. 2 para. 6BB(1)(a)(ii) ac gair wedi ei fewnosod (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 2(2) o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/16), rhlau. 1(2), 24(a)(iii)

Categori 6C – Aelodau o deulu gwladolion o’r Deyrnas UnedigLL+C

6C.  Person—

(a)sy’n aelod o deulu person [F108sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig] ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, F109...

(d)na fu’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2))[F110ac]

[F110(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.]

Categori 6D - Personau sy’n preswylio yn GibraltarLL+C

[F1116D.(1) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar, neu

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,

(b)sy’n ymgymryd—

(i)â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu

(ii)â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE, neu

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE,

(b)sydd—

(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu

(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(3) Nid yw paragraff (d) o is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (c) o’r is-baragraffau hynny yn unol â pharagraff 9(2).]]

Categori 7 – Plant gwladolion Swisaidd [F112— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021] LL+C

7.—(1Person—

[F113(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.]

Diwygiadau Testunol

F112Geiriau ym mhennawd Atod. 2 para. 7 wedi eu mewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 139(a)

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

[F114Categori 7A – Plant gwladolion Swisaidd sydd o fewn cwmpas y cytundeb ar hawliau dinasyddion SwisaiddLL+C

7A.  Person sydd â hawliau gwarchodedig—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

[F115(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor, a]

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).]

Categori 8 – Plant gweithwyr Twrcaidd [F116— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021] LL+C

8.—(1Person—

(a)sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F117Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithiwr Twrcaidd” yw gwladolyn Twrcaidd—

(a)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, a

(b)sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.

Diwygiadau Testunol

F116Geiriau ym mhennawd Atod. 2 para. 8 wedi eu mewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 141

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

[F118Categori 8A – Plant gweithwyr TwrcaiddLL+C

8A.(1) Person—

(a)sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd (“T”), pan oedd T yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,

(b)a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn blentyn i T, a

(ii)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig,

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

[F119(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs naill ai—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci, neu

(ii)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor pan oedd o leiaf ran o’r preswylio fel arfer hwnnw yn y tiriogaethau tramor.]

(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithiwr Twrcaidd” yw gwladolyn Twrcaidd—

(a)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, a

(b)sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.]

Preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegolLL+C

9.—(1At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu’r Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd—

(a)â’r cwrs presennol, neu

(b)gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, â chwrs yr ymgymerodd y person ag ef yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol,

i’w ystyried yn berson sy’n preswylio fel arfer yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.

[F120(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P”) i’w drin fel pe bai’n preswylio fel arfer mewn ardal pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)

P,

(b)

priod neu bartner sifil P, F121...

(ba)

[F122rhiant P, neu]

(c)

yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw.]

[F123(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i’r ardal o dan sylw yn cynnwys—

(a)

yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(b)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor Brydeinig benodedig, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig a’r tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

(c)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;

(d)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;

(e)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath;

(f)

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd tiriogaeth dramor yr UE, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr AEE, y Swistir a’r tiriogaethau tramor.]

(4At ddibenion yr Atodlen hon, mae myfyriwr cymwys sy’n garcharor i’w ystyried fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.

(5At ddibenion yr Atodlen hon, mae ardal [F124ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar]

(a)nad oedd gynt yn rhan o’r UE neu’r AEE, ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r tiriogaethau hyn,

i’w hystyried fel pe bai bob amser wedi bod yn rhan o’r AEE.

Darpariaeth bellach ar breswylio fel arfer: personau sy’n ymadael â gofalLL+C

10.—(1Caiff person sy’n ymadael â gofal ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol hyd yn oed os yw’r person sy’n ymadael â gofal, ar y diwrnod hwnnw—

(a)yn derbyn gofal y tu allan i Gymru (mewn achos pan fo rheoliad 49(c)(i) yn gymwys i’r myfyriwr), neu

(b)yn preswylio y tu allan i Gymru o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig (mewn achos pan fo rheoliad 49(c)(ii) yn gymwys i’r myfyriwr),

o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol Cymreig.

(2Ym mharagraff (1)—

ystyr “awdurdod lleol Cymreig” (“Welsh local authority”) yw awdurdod lleol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

mae i “derbyn gofal” (“looked after”) yr ystyr a roddir yn adran 74 o’r Ddeddf honno;

mae i “person sy’n ymadael â gofal” (“care leaver”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 49 o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

DehongliLL+C

11.[F125(1)]  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “AEE” (“EEA”) yw’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sef y diriogaeth a ffurfir gan Wladwriaethau’r AEE;

[F126ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw (oni nodir fel arall) mewn perthynas â pherson (“P”)—

(a)

priod P neu ei bartner sifil,

(b)

disgynyddion uniongyrchol P neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil P sydd—

(i)

o dan 21 oed, neu

(ii)

yn ddibynyddion P neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil P, neu

(c)

mewn achos pan fo P—

(i)

yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, neu

(ii)

at ddibenion paragraff 6A, yn berson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn UE neu’n wladolyn UE yn unig,

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol P neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil P;]

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ddyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(1);

F127...

F127...

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng yr UE a’i Aelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symudiad Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(2) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yn Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(3) fel y’i hestynnwyd gan ei Brotocol 1967(4);

[F126mae i “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom national” gan Erthygl 2(d) o’r cytundeb ymadael â’r UE;]

F127...

[F128ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;]

F127...

mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

[F129ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla, Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten), Aruba, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Mayotte, Montserrat, Polynesia Ffrengig, St Barthélemy, [F130St Helena, Ascension a Tristan da Cunha], St Pierre a Miquelon, Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc, Wallis a Futuna, Yr Ynys Las, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Ffaro, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, F131... [F132Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf];]

[F129ystyr “tiriogaethau tramor Prydeinig penodedig” (“specified British overseas territories”) yw Anguilla, Bermuda, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De, Gibraltar, Montserrat, [F133St Helena, Ascension a Tristan da Cunha], Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno, F134... [F135Ynysoedd Turks a Caicos, ac Ynysoedd y Wyryf];]

mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(5);

ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

[F136(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae cyfeiriad at “Member State” neu “State” yn Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

(1)

OJ Rhif L158, 30.04.2004, tt.77-123.

(2)

Gorch. 4904 ac OJ Rhif Ll 14, 30.04.02, t. 6.

(3)

Gorchmn. 9171.

(4)

Gorchmn. 3906, daeth y Protocol i rym ar 4 Hydref 1967.

(5)

1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).