xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2ZC.—(1) Person—
(a)sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
[F2(1A) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i’r person hwnnw,
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, a
(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(1B) Person—
(a)sydd—
(i)yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, neu
(ii)yn blentyn i briod neu bartner sifil gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—
(i)o dan 18 oed, a
(ii)yn blentyn i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, a
(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.]
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” yw person [F3y mae ganddo ganiatâd cyfredol] i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi [F4a roddwyd]—
(a)[F5o dan Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo, yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r cynlluniau a ganlyn—
(i)y Cynllun Teuluoedd o Wcráin;
(ii)y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin;
(iii)y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin;
(iv)Cynllun Estyn Caniatâd Wcráin,] neu
(b)y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
(i)pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
(ii)pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.]
[F6(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 2 para. 2ZC wedi ei fewnosod (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 3 o'r O.S. sy'n diwigio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Gwladolion Wcreinaidd ac Aelodau o’u Teuluoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/764), rhlau. 2, 43
F2Atod. 2 para. 2ZC(1A)(1B) wedi ei fewnosod (4.1.2024) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1349), rhlau. 1(2), 40(a) (ynghyd â rhl. 2)
F3Geiriau yn Atod. 2 para. 2ZC(2) wedi eu hamnewid (17.7.2025) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/728), rhlau. 1(2), 8(a) (ynghyd â rhl. 2)
F4Gair yn Atod. 2 para. 2ZC(2) wedi ei fewnosod (17.7.2025) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/728), rhlau. 1(2), 8(b) (ynghyd â rhl. 2)
F5Atod. 2 para. 2ZC(2)(a) wedi ei amnewid (3.2.2025) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/16), rhlau. 1(2), 23
F6Atod. 2 para. 2ZC(3) wedi ei fewnosod (4.1.2024) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1349), rhlau. 1(2), 40(b) (ynghyd â rhl. 2)