Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

[F1Categori 2ZB - Personau y rhoddwyd [F2caniatâd iddynt ddod i mewn neu aros] fel partner a ddiogelir a’u plantLL+C

2ZB.(1) Person—

(a)y rhoddwyd [F3caniatâd iddo ddod i mewn neu aros] fel partner a ddiogelir,

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd [F4caniatâd iddo ddod i mewn neu aros] fel partner a ddiogelir,

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i berson y rhoddwyd [F5caniatâd iddo ddod i mewn neu aros] fel partner a ddiogelir,

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd [F6caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi], a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd [F7caniatâd iddo ddod i mewn neu aros] fel partner a ddiogelir,

(b)ystyr “person y rhoddwyd [F8caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel partner a ddiogelir]” yw person [F9y mae ganddo ganiatâd cyfredol] [F10 i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi] naill ai fel dioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig neu fel partner sydd wedi cael profedigaeth [F11, a roddwyd] [F12o dan unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r rheolau mewnfudo a bennir yn y naill neu’r llall o’r achosion a ganlyn]

[F13Achos 1

Yn achos person y rhoddwyd caniatâd iddo aros cyn 31 Ionawr 2024, unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—]

(i)paragraffau 289B a 289D (dioddefwyr trais domestig),

(ii)paragraffau D-DVILR.1.1. a D-DVILR.1.2. o Atodiad FM (dioddefwyr cam-drin domestig),

(iii)paragraffau 40 ac 41 o Atodiad Lluoedd Arfog (dioddefwyr trais domestig sy’n bartneriaid i aelodau o’r lluoedd arfog),

(iv)paragraff 288, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 287(b) o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (priodau neu bartneriaid sifil sydd wedi cael profedigaeth),

(v)paragraffau D-BPILR.1.1 a D-BPILR.1.2 o Atodiad FM (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth),

(vi)paragraffau 36 a 37 o Atodiad Lluoedd Arfog (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth), neu

(vii)paragraff 295N, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 295M o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (partneriaid di-briod neu bartneriaid o’r un rhyw sydd wedi cael profedigaeth).

[F14Achos 2

Yn achos person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros ar neu ar ôl 31 Ionawr 2024, y naill neu’r llall o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—

(i)

paragraff VDA 9.1 o’r Atodiad Dioddefwr Cam-drin Domestig, neu

(ii)

paragraff BP 11.1 o’r Atodiad Partner sydd wedi cael Profedigaeth.]]

Diwygiadau Testunol