RHAN 7Y GRANT SYLFAENOL A’R GRANT CYNHALIAETH

PENNOD 3Y GRANT CYNHALIAETH

Swm y grant cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamserI146

1

Mae Tabl 4 yn nodi uchafsymiau’r grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser (“myfyriwr llawnamser”) pan fo—

a

Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r grant cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;

b

Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

c

Colofn 3 yn pennu uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.

2

Pan—

a

na fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370, neu

b

bo’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,

swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â lleoliad y myfyriwr.

3

Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370 ond yn llai na £59,200, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael wedi ei ostwng £1 am bob—

a

£6.937 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw gartref;

b

£4.475 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn Llundain;

c

£5.750 o incwm aelwyd F1sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn rhywle arall.

4

Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr llawnamser yn £59,200 neu ragor, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw £0.

Tabl 4

Colofn 1 Blwyddyn academaidd

Colofn 2 Lleoliad y myfyriwr llawnamser

Colofn 3 Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018

Byw gartref

£5,885

Byw oddi cartref, astudio yn Llundain

£9,124

Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall

£7,100