xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CY GRANT SYLFAENOL A’R GRANT CYNHALIAETH

PENNOD 3LL+CY GRANT CYNHALIAETH

Swm y grant cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamserLL+C

46.—(1Mae Tabl 4 yn nodi uchafsymiau’r grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs llawnamser (“myfyriwr llawnamser”) pan fo—

(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r grant cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 3 yn daladwy mewn perthynas â hi;

(b)Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);

(c)Colofn 3 yn pennu uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.

(2Pan—

(a)na fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370, neu

(b)bo’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,

swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â lleoliad y myfyriwr.

(3Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr yn fwy na £18,370 ond yn llai na £59,200, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael wedi ei ostwng £1 am bob—

(a)£6.937 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw gartref;

(b)£4.475 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn Llundain;

(c)£5.750 o incwm aelwyd [F1sy’n fwy na £18,370] pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn rhywle arall.

(4Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr llawnamser yn £59,200 neu ragor, swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw £0.

Tabl 4
Colofn 1 Blwyddyn academaiddColofn 2 Lleoliad y myfyriwr llawnamserColofn 3 Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018Byw gartref£5,885
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£9,124
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£7,100

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 46 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Swm y grant cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amserLL+C

47.—(1Mae Tabl 5 yn nodi uchafsymiau’r grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser (“myfyriwr rhan-amser”) pan fo—

(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r grant cynhaliaeth a bennir yng Ngholofn 2 yn daladwy mewn perthynas â hi;

(b)Colofn 2 yn pennu uchafswm y grant sydd ar gael mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfatebol yng Ngholofn 1.

(2Os—

(a)nad yw incwm aelwyd myfyriwr rhan-amser yn fwy na £25,000, neu

(b)yw’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal,

swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yw’r uchafswm sydd ar gael wedi ei luosi â dwysedd astudio’r cwrs presennol.

(3Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr rhan-amser yn fwy na £25,000 ond yn llai na £59,200, cyfrifir swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy fel a ganlyn—

Cam 1

Gostwng uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael £1 am bob £6.84 o incwm aelwyd sy’n fwy na £25,000.

Cam 2

Lluosi canlyniad Cam 1 â dwysedd astudio’r cwrs presennol.

Y canlyniad yw swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy.

(4Pan fo incwm aelwyd y myfyriwr rhan-amser yn [F2£59,200 neu ragor] , swm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy yw £0.

Tabl 5

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr rhan-amser

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018£5,000

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 47 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Incwm yr aelwydLL+C

48.  Gweler Rhan 2 o Atodlen 3 am ddarpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 48 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Ystyr person sy’n ymadael â gofalLL+C

49.  Mae myfyriwr cymwys yn “person sy’n ymadael â gofal”—

(a)os yw’r myfyriwr o dan 25 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol,

(b)os yw’r myfyriwr yn gategori o berson ifanc, neu wedi bod yn gategori o berson ifanc, a ddiffinnir yn adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), neu yn rhinwedd yr adran honno, ac

(c)os, rhwng pen-blwydd y myfyriwr yn 14 oed a diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)oedd y myfyriwr yn derbyn gofal, wedi ei faethu neu wedi ei letya (o fewn ystyr adrannau 74 a 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) am gyfnod cyfanredol o 13 wythnos neu ragor, neu

(ii)oedd y myfyriwr yn berson yr oedd gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig (o fewn yr ystyr a roddir i “special guardianship order” gan adran 14A o Ddeddf Plant 1989)(2) mewn grym mewn cysylltiad ag ef am gyfnod o 13 wythnos neu ragor.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 49 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

(2)

1989 p. 41; mewnosodwyd adran 14A gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38) ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23).