xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

9.  Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(i)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£12.70” rhodder “£13.10”;

(ii)yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£4.20” rhodder “£4.35”;

(iii)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£200.00” rhodder “£205.00”;

(iv)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£200.00”, “£346.00” ac “£8.40” rhodder “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” yn y drefn honno;

(v)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£346.00”, “£430.00” a “£10.60” rhodder “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” yn y drefn honno;

(vi)yn is-baragraff (8)(a) ar ôl “lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm” mewnosoder “neu pan na fo’r annibynnydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

(vii)yn is-baragraff (9)(b), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;

(viii)ar ddiwedd is-baragraff (9)(c) yn lle “.” rhodder “;”;

(ix)ar ôl is-baragraff (9)(c) mewnosoder—

(d)unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.;

(b)ym mharagraff 10A (y dyddiad y cymerir i ystyriaeth incwm sy’n cynnwys enillion o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(i)yn is-baragraff (a) yn lle “ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio” rhodder “ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd”;

(ii)yn lle is-baragraffau (b) ac (c) rhodder—

(b)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd; neu

(c)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o gyflogaeth yn newid, y diwrnod y mae enillion y ceisydd o gyflogaeth yn newid a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd.;

(c)ym mharagraff 19(4)(a) (incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;

(d)ym mharagraff 21 (trin costau gofal plant)—

(i)yn lle is-baragraff (8)(l) rhodder—

(1) gan berson sydd wedi ei gyflogi, neu sy’n gweithredu o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, i ddarparu gofal a chymorth gan ddarparwr gwasanaeth cymorth cartref, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016; neu ;

(ii)yn is-baragraff (11)(a), ar ôl “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith” mewnosoder “neu y byddai’r aelod arall yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

(iii)yn is-baragraff (11)(c), ar ôl “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith” mewnosoder “neu y byddai’r aelod arall yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

(e)ym mharagraff 27(7) (incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester,”;

(f)ym mharagraff 30 (cyfalaf tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr), yn is-baragraff (4)(a), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.