2018 Rhif 1365 (Cy. 262)
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2018
Cymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Rhagfyr 2018
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2018.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i cymeradwyir drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar yr amod y cymeradwyir y Gorchymyn cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2019.
3
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y lluosydd ardrethu annomestig2
At ddiben paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2019, pennir mai 281.7 yw B.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)