ATODLEN 2Y cofnodion sydd iʼw cadw gan ddarparwyr awdurdodau lleol
1
Cofnod syʼn dangos mewn cysylltiad â phob plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth—
a
dyddiad lleoliʼr plentyn;
b
cynllun gofal a chymorth y plentyn;
c
y cytundeb gofal maeth mewn cysylltiad âʼr plentyn;
d
enw a chyfeiriad y rhieni maeth;
e
y dyddiad y daeth lleoliad y plentyn yno i ben;
f
cyfeiriad y plentyn cyn y lleoliad;
g
cyfeiriad y plentyn wrth iddo ymadael âʼr lleoliad;
h
y ddarpariaeth statudol y mae neu yr oedd gofal maeth yn cael ei ddarparu iʼr plentyn odani.
2
Cofnod oʼr holl bersonau syʼn gweithio iʼr darparwr awdurdod lleol, a hwnnwʼn gofnod y mae rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn mewn cysylltiad â pherson syʼn dod o fewn rheoliad 29(1)—
a
enw llawn a chyfeiriad cartref;
b
dyddiad geni;
c
rhyw;
d
cymwysterau syʼn berthnasol i, a phrofiad o wneud, gwaith syʼn ymwneud â phlant;
e
copi o dystysgrif geni a phasbort (os oes ganddo un) mewn cysylltiad â’r person;
f
copi o bob geirda a geir mewn cysylltiad âʼr person;
g
pa un a ywʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr awdurdod lleol at ddibenion gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau, neu heblaw o dan gontract, neu a yw wedi ei gyflogi gan rywun ac eithrioʼr darparwr awdurdod lleol;
h
pa un a ywʼr person yn gweithioʼn llawnamser neuʼn rhan-amser, ac, os ywʼn rhan-amser, nifer yr oriau syʼn cael eu gweithio ar gyfartaledd bob wythnos;
i
y dyddiadau y maeʼr person yn dechrau cael ei gyflogi felly ac yn peidio â chael ei gyflogi felly;
j
y swydd sydd gan y person yn y gwasanaeth;
k
cofnodion o gamau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â chyflogaeth y person; ac
l
cofnod o ddyddiad tystysgrif GDG ddiweddaraf y person ac a gymerwyd unrhyw gamau gweithredu o ganlyniad i gynnwys y dystysgrif.
3
Cofnod o bob damwain ddifrifol ac anaf difrifol syʼn digwydd i blant tra bônt wedi eu lleoli gyda rhieni maeth.
4
Cofnod o’r holl gwynion a wneir o dan y polisi cwyno y mae’r darparwr awdurdod lleol yn ei roi yn ei le, a’r camau gweithredu a gymerir gan y darparwr awdurdod lleol mewn cysylltiad ag unrhyw gwynion o’r fath.
5
Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw atgyfeiriadau diogelu, aʼr canlyniad.
6
Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw achos o ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth gan rieni maeth ar blentyn.