ATODLEN 1Gwybodaeth sydd iʼw chynnwys mewn datganiad o ddiben gan ddarparwr awdurdod lleol
Rhaid iʼr datganiad o ddiben a lunnir gan ddarparwr awdurdod lleol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
a
enw a phrif gyfeiriad yr awdurdod lleol,
b
enw rheolwr yr awdurdod lleol,
c
datganiad o ystod anghenion y plant y maeʼr gwasanaeth iʼw ddarparu ar eu cyfer,
d
sut y maeʼr gwasanaeth iʼw ddarparu i ddiwallu anghenion plant ac iʼw cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol,
e
manylion strwythur rheoli a staffio’r gwasanaeth,
f
manylion y cyfleusterau aʼr cyfarpar a fydd ar gael i rieni maeth iʼw cynorthwyo i ddiwallu anghenion plant am ofal a chymorth ac iʼw cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol,
g
manylion y trefniadau a wnaed i gefnogi anghenion diwylliannol, ieithyddol a chrefyddol plant,
h
manylion y trefniadau a wnaed i ddarparu cymorth i blant mewn perthynas âʼu cyfeiriadedd rhywiol aʼu hunaniaeth o ran rhywedd,
i
manylion y trefniadau a wnaed ar gyfer ymgynghori â phlant ynghylch gweithredu gwasanaeth maethuʼr awdurdod lleol,
j
manylion ynghylch sut y bydd yr awdurdod lleol yn diwallu anghenion iaith a chyfathrebu plant, gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg.