RHAN 2Gofynion cyffredinol ar gyfer darparwyr awdurdodau lleol
Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben5
1
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.
2
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol—
a
cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a
b
pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.
3
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (4) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.
4
Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) yw—
a
Gweinidogion Cymru,
b
unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr awdurdod lleol, oni bai na fyddai’n briodol gwneud hynny o ystyried oedran y plentyn a’i ddealltwriaeth,
c
rhieni unrhyw blentyn o’r fath,
d
rhieni maeth a darpar rieni maeth,
e
personau sy’n gweithio at ddibenion gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol.
5
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant plentyn.