RHAN 9Gofynion eraill ar ddarparwyr awdurdod lleol
Chwythuʼr chwiban40
1
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod pob person syʼn gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am y gwasanaeth.
2
Rhaid iʼr trefniadau hyn gynnwys—
a
cael polisi chwythuʼr chwiban yn ei le a gweithredu yn unol âʼr polisi hwnnw, a
b
sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl syʼn gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon oʼr fath.
3
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y trefniadau syʼn ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithreduʼn effeithiol.
4
Pan godir pryder, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau—
a
yr ymchwilir iʼr pryder,
b
y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad, ac
c
y cedwir cofnod syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) a (b).