RHAN 9Gofynion eraill ar ddarparwyr awdurdod lleol

Cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau maethu37

1

Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gynnal y cofnodion a bennir yn Atodlen 2 am 15 mlynedd.

2

Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—

a

sicrhau bod y cofnodion a bennir yn Atodlen 2 yn gywir ac yn gyfredol,

b

cadw’r cofnodion yn ddiogel,

c

gwneud trefniadau addas er mwyn iʼr cofnodion barhau i gael eu cadwʼn ddiogel os bydd y gwasanaeth yn cau,

d

rhoiʼr cofnodion ar gael i Weinidogion Cymru ar gais,

e

sicrhau bod plant syʼn defnyddioʼr gwasanaeth—

i

yn cael eu gwneud yn ymwybodol oʼu hawliau i gael mynediad iʼw cofnodion, a

ii

yn cael mynediad iʼw cofnodion fel y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu.