RHAN 7Staffio
Cefnogi a datblygu staff30
1
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi yn ei le ar gyfer cefnogi a datblygu staff.
2
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw berson syʼn gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys person y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr)—
a
yn cael cyfnod sefydlu syʼn briodol iʼw rôl,
b
yn cael ei wneud yn ymwybodol oʼi gyfrifoldebau ei hun a chyfrifoldebau staff eraill,
c
yn cael ei oruchwylio aʼi arfarnuʼn briodol,
d
yn cael hyfforddiant craidd syʼn briodol iʼr gwaith sydd iʼw wneud ganddo,
e
yn cael hyfforddiant arbenigol fel y boʼn briodol, ac
f
yn cael cymorth a chynhorthwy i gael unrhyw hyfforddiant pellach syʼn briodol iʼr gwaith y maeʼn ei wneud.
3
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir i weithio yn y gwasanaeth yn rheolwr yn cael ei gefnogi i gynnal unrhyw gofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru.