RHAN 7Staffio

Addasrwydd staff29

1

Ni chaiff y darparwr awdurdod lleol—

a

cyflogi person o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny,

b

caniatáu i wirfoddolwr weithio yn y gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny, nac

c

caniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y gwasanaeth mewn swydd y gall, yng nghwrs ei ddyletswyddau, gael cysylltiad rheolaidd ynddi â phlant syʼn cael gofal a chymorth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.

2

At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i weithio yn y gwasanaeth oni bai—

a

bod y person yn addas o ran ei uniondeb ac o gymeriad da,

b

bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd aʼr profiad syʼn angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae iʼw wneud,

c

bod y person, oherwydd ei iechyd, ar ôl i addasiadau rhesymol gael eu gwneud, yn gallu cyflawniʼn briodol y tasgau syʼn rhan annatod oʼi rôl,

d

bod y person wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, mewn cysylltiad â phob un oʼr materion sy’n ofynnol o dan baragraffau 1 i 9 o Atodlen 3, a bod yr wybodaeth hon neuʼr ddogfennaeth hon ar gael yn y gwasanaeth i Weinidogion Cymru edrych arni, ac

e

pan foʼr person wedi ei gyflogi gan y darparwr awdurdod lleol i reoliʼr gwasanaeth, o 1 Medi 2022, fod y person wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol18 â Gofal Cymdeithasol Cymru.

3

Rhaid i gais gael ei wneud am dystysgrif GDG briodol gan neu ar ran y darparwr awdurdod lleol at ddiben asesu addasrwydd person ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1). Ond nid ywʼr gofyniad hwn yn gymwys os ywʼr person syʼn gweithio yn y gwasanaeth wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel gwasanaeth diweddaruʼr GDG).

4

Pan fo person syʼn cael ei ystyried ar gyfer swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol wirio statws tystysgrif GDG y person at ddiben asesu addasrwydd y person hwnnw ar gyfer y swydd honno.

5

Pan fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol wirio statws tystysgrif GDG y person o leiaf bob blwyddyn.

6

Pan na fo person a benodir i swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) wedi ei gofrestru â gwasanaeth diweddaruʼr GDG, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol wneud cais am dystysgrif GDG newydd mewn cysylltiad âʼr person hwnnw o fewn tair blynedd i ddyroddiʼr dystysgrif y gwneir cais amdani yn unol â pharagraff (3) ac wedi hynny rhaid i geisiadau pellach oʼr fath gael eu gwneud o leiaf bob tair blynedd.

7

Os nad yw person syʼn gweithio yn y gwasanaeth yn addas i weithio yn y gwasanaeth mwyach o ganlyniad i beidio â bodloni un neu ragor oʼr gofynion ym mharagraff (2), rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—

a

cymryd camau gweithredu angenrheidiol a chymesur i ddiogelu plant, a

b

pan foʼn briodol, hysbysu—

i

Gofal Cymdeithasol Cymru,

ii

y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.