RHAN 6Gofynion ar ddarparwyr awdurdodau lleol i sicrhau mynediad i wasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau eraill

Mynediad i wasanaethau iechyd26

1

Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn hybu iechyd a datblygiad plant sydd wedi eu lleoli gyda hwy.

2

Yn benodol, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth—

a

yn cofrestru pob plentyn ag ymarferydd cyffredinol,

b

yn darparu i bob plentyn fynediad i unrhyw gyngor, triniaeth a gwasanaethau meddygol, deintyddol, optegol, nyrsio, seicolegol a seiciatrig y mae eu hangen ar y plentyn,

c

yn darparu i bob plentyn unrhyw gymorth, cymhorthion a chyfarpar unigol y mae eu hangen ar y plentyn o ganlyniad i unrhyw anghenion iechyd neu anabledd penodol sydd ganddo, a

d

yn darparu i bob plentyn ganllawiau, cymorth a chyngor ynghylch iechyd, gofal personol a materion hybu iechyd syʼn briodol i anghenion a dymuniadauʼr plentyn.

3

Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle mewn perthynas â rhoi meddyginiaethau gan rieni maeth.