RHAN 4Gofynion ar ddarparwyr awdurdod lleol o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu
Safonau gofal a chymorth i blant13
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn rhoi gofal a chymorth i blentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy—
a
yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn, a
b
mewn ffordd syʼn cynnal, yn amddiffyn ac yn hybu diogelwch a llesiant y plentyn.
Gwybodaeth ar gyfer plant14
1
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod gan blant yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud a chymryd rhan mewn penderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir gofal a chymorth iddynt a sut y maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.
2
Rhaid iʼr wybodaeth a ddarperir fod ar gael mewn iaith, arddull, cyflwyniad a fformat syʼn briodol i blant o bob oedran.
3
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant yn cael unrhyw gymorth syʼn angenrheidiol iʼw galluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.
Cydymffurfedd âʼr cytundeb gofal maeth15
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol fonitro cydymffurfedd y rhieni maeth â gofynion y cytundeb gofal maeth.
Iaith a chyfathrebu16
1
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod anghenion iaith plant yn cael eu diwallu.
2
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau y darperir mynediad i unrhyw gymhorthion a chyfarpar syʼn angenrheidiol i blant i hwylusoʼr ffordd y maent yn cyfathrebu ag eraill.
Parch a sensitifrwydd17
1
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod plant sydd wedi eu lleoli gan y darparwr yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.
2
Mae hyn yn cynnwys, ond nid ywʼn gyfyngedig i—
a
parchu preifatrwydd ac urddas y plentyn,
b
parchu hawliauʼr plentyn i gyfrinachedd,
c
hybu ymreolaeth ac annibyniaeth y plentyn, a
d
rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel yʼu diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 201014) y plentyn.
Dyletswydd i hybu cyswllt18
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn hybu cyswllt rhwng plentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy a rhieni, perthnasau a ffrindiauʼr plentyn, yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn ac unrhyw orchymyn llys syʼn ymwneud â chyswllt.