RHAN 2Gofynion cyffredinol ar gyfer darparwyr awdurdodau lleol
Gofynion mewn perthynas â darparu gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol3
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.
Cynnwys y datganiad o ddiben4
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol lunio datganiad o ddiben sy’n cynnwys yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1.
Gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben5
1
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.
2
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol—
a
cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a
b
pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.
3
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (4) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.
4
Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) yw—
a
Gweinidogion Cymru,
b
unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr awdurdod lleol, oni bai na fyddai’n briodol gwneud hynny o ystyried oedran y plentyn a’i ddealltwriaeth,
c
rhieni unrhyw blentyn o’r fath,
d
rhieni maeth a darpar rieni maeth,
e
personau sy’n gweithio at ddibenion gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol.
5
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant plentyn.
Gofynion mewn perthynas â monitro a gwella6
1
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.
2
Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—
a
unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr awdurdod lleol,
b
rhieni unrhyw blentyn o’r fath, oni bai bod hyn yn amhriodol neu’n anghyson â llesiant y plentyn,
c
rhieni maeth,
d
personau sy’n gweithio at ddibenion gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol, ac
e
unrhyw awdurdod ardal,
ar ansawdd y gwasanaeth.
3
Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gwasanaeth, rhaid i’r darparwr awdurdod lleol ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2).
Gofyniad i benodi rheolwr awdurdod lleol7
1
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol benodi un o’i swyddogion i fod yn gyfrifol am reoli’r gwasanaeth.
2
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i Weinidogion Cymru—
a
o enw’r person a benodir yn rheolwr,
b
o’r dyddiad y mae’r penodiad i gymryd effaith,
c
os bydd y person sydd wedi ei benodi’n rheolwr yn peidio â rheoli gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol.
Gofynion o ran addasrwydd ar gyfer penodi rheolwr8
1
Ni chaiff y darparwr awdurdod lleol benodi person i reoli’r gwasanaeth oni bai bod y person hwnnw yn addas i wneud hynny.
2
At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn addas i reoli’r gwasanaeth oni bai bod gofynion rheoliad 29(2) (addasrwydd staff) wedi eu bodloni mewn cysylltiad â’r person hwnnw.
Gofynion eraill mewn perthynas â’r rheolwr9
1
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y person sydd wedi ei benodi’n rheolwr—
a
yn cael ei gefnogi i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a
b
yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.
2
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y rheolwr yn cydymffurfio â gofynion Rhan 11 (dyletswyddau rheolwyr awdurdodau lleol).
3
Os bydd gan y darparwr awdurdod lleol reswm dros gredu nad yw’r rheolwr wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhan 11, rhaid i’r darparwr gymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad.
4
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol roi trefniadau addas yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli’n effeithiol ar unrhyw adeg pan nad oes rheolwr sydd wedi ei benodi neu pan yw’r rheolwr yn absennol o’r gwasanaeth.
Gofyniad i ddarparuʼr gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau10
1
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y polisïau aʼr gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—
a
diogelu (gweler rheoliad 20),
b
defnyddio rheolaeth neu ataliaeth yn briodol (gweler rheoliad 21),
c
bwlio (gweler rheoliad 24),
d
absenoldeb (gweler rheoliad 25),
e
meddyginiaeth (gweler rheoliad 26 (mynediad i wasanaethau iechyd)),
f
cefnogi a datblygu staff (gweler rheoliad 30),
g
disgyblu staff (gweler rheoliad 32),
h
cwynion (gweler rheoliad 39),
i
chwythuʼr chwiban (gweler rheoliad 40),
j
cymorth ar gyfer rhieni maeth o ran sut i helpu plant i reoli eu harian (gweler rheoliad 45).
2
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol hefyd gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle syʼn rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth a nodir yn y datganiad o ddiben.
3
Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod cynnwys y polisïau aʼr gweithdrefnau y maeʼn ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) a (2)—
a
yn briodol i anghenion plant y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer,
b
yn gyson âʼr datganiad o ddiben, ac
c
yn cael eu cadwʼn gyfredol.
4
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’i bolisïau a’i weithdrefnau.
5
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle o dan baragraff (1)(a), (b), (g) ac (i) yn ystyried anghenion unrhyw blant eraill y gall y lleoliad sy’n cael ei wneud effeithio arnynt.
Dyletswydd gonestrwydd11
Rhaid i’r darparwr awdurdod lleol weithredu mewn ffordd agored a gonest gydag—
a
unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli ganddo,
b
rhieni unrhyw blentyn o’r fath,
c
rhieni maeth a darpar rieni maeth,
d
yn achos plentyn sydd wedi ei leoli gydag awdurdod ardal, yr awdurdod ardal hwnnw.