Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 10Cefnogi a goruchwylio rhieni maeth

Cymorth, hyfforddiant a gwybodaeth ar gyfer rhieni maeth

41.—(1Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod gan rieni maeth yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i ddarparu gofal a chymorth i blentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn.

(2Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn cael unrhyw hyfforddiant, cyngor a chymorth, gan gynnwys cymorth y tu allan i oriau swyddfa, y maeʼn ymddangos eu bod yn angenrheidiol er budd plant sydd wedi eu lleoli gydaʼr rhieni maeth ac iʼw galluogi i ddarparu gofal a chymorth i blant yn unol â chynllun gofal a chymorth pob plentyn.

(3Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod darpar rieni maeth yn cael unrhyw hyfforddiant, gwybodaeth a chyngor yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol.

(4Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol fonitro ac adolyguʼr wybodaeth, yr hyfforddiant, y cyngor aʼr cymorth a ddarperir i rieni maeth a darpar rieni maeth a gwneud unrhyw welliannau syʼn angenrheidiol.

Polisïau a gweithdrefnau i rieni maeth

42.  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn gyfarwydd âʼr polisïau aʼr gweithdrefnau a sefydlir o dan reoliadau 20, 21, 24, 25, 26, 39 a 45 ac yn gweithredu yn unol â hwy.

Goruchwylio

43.  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod rhieni maeth yn cael eu goruchwylioʼn briodol.

Perthnasoedd gwaith effeithiol

44.  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—

(a)cynnal perthnasoedd proffesiynol da â rhieni maeth, a

(b)annog a chynorthwyo rhieni maeth i gynnal perthnasoedd personol da â phlant sydd wedi eu lleoli gyda hwy.

Cefnogi plant i reoli eu harian

45.—(1Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle i alluogi rhieni maeth i ddarparu cymorth a chynhorthwy i blant o ran sut i reoli eu harian.

(2Rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau y maeʼn ofynnol gan y rheoliad hwn iddynt fod yn eu lle nodiʼr camau sydd iʼw cymryd gan rieni maeth i alluogi a chefnogi plant i reoli eu harian eu hunain ac i amddiffyn plant rhag camdriniaeth ariannol(1).

(3Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sicrhau bod y darparwr awdurdod lleol yn goruchwylio ac yn monitro’n ddigonol y cynilion a wneir gan rieni maeth ar ran plant.

(4Pan foʼr rhieni maeth yn dal arian plentyn at unrhyw ddiben, rhaid iʼr polisi aʼr gweithdrefnau syʼn ofynnol gan y rheoliad hwn ddarparu bod yr arian yn cael ei ddal mewn cyfrif yn enwʼr plentyn neu mewn cyfrif syʼn ei gwneud yn bosibl darnodi arian y plentyn yn glir.

(5Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sicrhau bod rhieni maeth yn trosglwyddo’r holl gofnodion o gynilion (gan gynnwys gwariant o gynilion) i’r darparwr awdurdod lleol pan ddaw lleoliad plentyn y mae’r cofnodion yn ymwneud ag ef i ben.

(1)

Gweler adran 197(1) o Ddeddf 2014 am y diffiniad o “camdriniaeth ariannol”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources