ATODLEN 1Gwybodaeth am ddarpar rieni maeth ac aelodau eraill oʼu haelwyd aʼu teulu
RHAN 1
1
Enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni.
2
Manylion iechyd (wedi eu hategu gan adroddiad meddygol).
3
Manylion unrhyw aelodau eraill oʼr aelwyd syʼn oedolion.
4
Manylion y plant yn y teulu, pa un a ydynt yn aelodau oʼr aelwyd ai peidio, ac unrhyw blant eraill yn yr aelwyd.
5
Manylion eu llety.
6
Canlyniad unrhyw archiad neu gais a wnaed ganddynt neu gan unrhyw aelod arall oʼu haelwyd i faethu neu fabwysiadu plant, neu i gofrestruʼn warchodwr plant neuʼn ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 201016, gan gynnwys manylion unrhyw gymeradwyaeth flaenorol syʼn ymwneud â hwy neu ag unrhyw aelod arall oʼr aelwyd, neu unrhyw wrthodiad blaenorol i gymeradwyaeth oʼr fath.
7
Os ywʼr person, yn y tair blynedd flaenorol, wedi bod yn rhiant maeth a gymeradwywyd gan ddarparwr gwasanaethau maethu arall neu ddarparwr gwasanaethau maethu yn Lloegr, enw a chyfeiriad y darparwr gwasanaethau maethu hwnnw.
8
Enwau a chyfeiriadau dau berson a fydd yn darparu geirda personol ar gyfer y person.
9
Mewn perthynas âʼr person ac unrhyw aelod arall o aelwyd y person syʼn 18 oed neu drosodd, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 199717 syʼn cynnwys gwybodaeth addasrwydd syʼn ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) oʼr Ddeddf honno).
10
Manylion priodas, partneriaeth sifil neu berthynas debyg gyfredol ac unrhyw briodas, partneriaeth sifil neu berthynas debyg flaenorol.
RHAN 2
11
Manylion personoliaeth.
12
Argyhoeddiad crefyddol, a gallu i ofalu am blentyn o unrhyw argyhoeddiad crefyddol penodol.
13
Tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol a gallu i ofalu am blentyn o unrhyw darddiad hiliol neu gefndir diwylliannol neu ieithyddol penodol.
14
Gallu i ddarparu cymorth i blentyn mewn perthynas âʼi gyfeiriadedd rhywiol aʼi hunaniaeth o ran rhywedd.
15
Cyflogaeth neu alwedigaeth yn y gorffennol aʼr presennol, safon byw, gweithgareddau hamdden a diddordebau.
16
Profiad blaenorol (os o gwbl) o ofalu am eu plant eu hunain a phlant eraill.
17
Sgiliau, cymhwysedd a photensial syʼn berthnasol iʼw gallu i ofaluʼn effeithiol am blentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy.
ATODLEN 2Troseddau a bennir at ddibenion rheoliad 7(9) a (10)
RHAN 1
Troseddau yng Nghymru a Lloegr1
Unrhyw un oʼr troseddau a ganlyn yn erbyn oedolyn—
a
trosedd treisio o dan adran 1 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 18,
b
trosedd ymosod drwy dreiddio o dan adran 2 oʼr Ddeddf honno,
c
trosedd achosi i berson gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol heb gydsyniad o dan adran 4 oʼr Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (4) oʼr adran honno,
d
trosedd gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl syʼn llesteirio dewis o dan adran 30 oʼr Ddeddf honno, os oedd y cyffwrdd yn dod o fewn is-adran (3) oʼr adran honno,
e
trosedd achosi neu ysgogi person ag anhwylder meddwl syʼn llesteirio dewis i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol o dan adran 31 oʼr Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd a achoswyd neu a ysgogwyd yn dod o fewn is-adran (3) oʼr adran honno,
f
trosedd cymell, bygwth neu ddichell i gaffael gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl o dan adran 34 oʼr Ddeddf honno, os oedd y cyffwrdd o dan sylw yn dod o fewn is-adran (2) oʼr adran honno, ac
g
trosedd achosi i berson ag anhwylder meddwl gymryd rhan neu gytuno i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol drwy gymell, bygwth neu ddichell o dan adran 35 oʼr Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (2) oʼr adran honno.
Troseddau yn yr Alban
2
Trosedd o dan adran 1 (treisio) a 18 (treisio plentyn ifanc) o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 200919.
3
Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 199520, ac eithrio mewn achos pan oedd y troseddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawniʼr drosedd.
4
Trosedd plagiwm (lladrata plentyn o dan oedran aeddfedrwydd).
5
Trosedd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 198221 (ffotograffau anweddus o blant).
6
Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 200022 (camfanteisio ar ymddiriedaeth).
Troseddau yng Ngogledd Iwerddon
7
Trosedd o dan Erthygl 5 (treisio) ac Erthygl 12 (treisio plentyn o dan 13 oed) o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 200823.
8
Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 196824, ac eithrio yn yr achos pan oedd y troseddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawniʼr drosedd.
9
Trosedd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 197825 (ffotograffau anweddus).
10
Trosedd yn groes i Erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth, etc) (Gogledd Iwerddon) 198826 (meddu ar ffotograffau anweddus o blant).
RHAN 2
11
1
Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 195627—
a
adran 1 (treisio),
b
adran 5 (cyfathrach â merch o dan 13 oed),
c
yn ddarostyngedig i baragraff 14, adran 6 (cyfathrach â merch rhwng 13 ac 16 oed),
d
adran 19 neu 20 (herwgydio merch o dan 18 neu 16 oed),
e
adran 25 neu 26 (caniatáu i ferch o dan 13 oed, neu rhwng 13 ac 16 oed, ddefnyddio mangre i gael cyfathrach), ac
f
adran 28 (achosi neu annog puteinio merch o dan 16 oed, cyfathrach â hi neu ymosodiad anweddus arni).
2
Trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster gyda Phlant 196028 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc).
3
Trosedd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Trosedd 197729 (ysgogi merch o dan 16 oed i gyflawni llosgach).
4
Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 200030 (camfanteisio ar ymddiriedaeth).
12
Daw person o fewn y paragraff hwn os yw wedi ei euogfarnu o unrhyw un neu ragor oʼr troseddau a ganlyn yn erbyn plentyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd neu os yw wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd oʼr fath—
a
trosedd o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956 (caffael menyw drwy fygwth neu haeru anwir),
b
trosedd o dan adran 4 oʼr Ddeddf honno (rhoi cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach),
c
trosedd o dan adran 14 neu 15 oʼr Ddeddf honno (ymosod anweddus),
d
trosedd o dan adran 16 oʼr Ddeddf honno (ymosod gan fwriadu cyflawni sodomiaeth),
e
trosedd o dan adran 17 oʼr Ddeddf honno (herwgydio menyw drwy rym neu oherwydd ei heiddo), ac
f
trosedd o dan adran 24 oʼr Ddeddf honno (cadw menyw mewn puteindy neu mewn mangre arall).
13
Daw person o fewn y paragraff hwn os yw wedi ei euogfarnu o unrhyw un neu ragor oʼr troseddau a ganlyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd neu os yw wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd oʼr fath—
a
trosedd o dan adran 7 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956 (cyfathrach â pherson diffygiol) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn,
b
trosedd o dan adran 9 oʼr Ddeddf honno (caffael person diffygiol) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol,
c
trosedd o dan adran 10 oʼr Ddeddf honno (llosgach gan ddyn) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn,
d
trosedd o dan adran 11 oʼr Ddeddf honno (llosgach gan fenyw) drwy ganiatáu i blentyn gael cyfathrach rywiol â hi,
e
yn ddarostyngedig i baragraff 14, trosedd o dan adran 12 oʼr Ddeddf honno drwy gyflawni sodomiaeth â phlentyn o dan 16 oed,
f
yn ddarostyngedig i baragraff 14, trosedd o dan adran 13 oʼr Ddeddf honno drwy gyflawni gweithred o anwedduster difrifol â phlentyn,
g
trosedd o dan adran 21 oʼr Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol oddi wrth riant neu warcheidwad) drwy gymryd plentyn o feddiant ei riant neu ei warcheidwad,
h
trosedd o dan adran 22 oʼr Ddeddf honno (achosi puteinio menywod) mewn perthynas â phlentyn,
i
trosedd o dan adran 23 oʼr Ddeddf honno (caffael merch o dan 21 oed) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol â thrydydd person,
j
trosedd o dan adran 27 oʼr Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach) drwy gymell neu ganiatáu i blentyn droi at fangre neu fod mewn mangre at ddiben cael cyfathrach rywiol,
k
trosedd o dan adran 29 oʼr Ddeddf honno (achosi neu annog puteinio person diffygiol) drwy achosi neu annog puteinio plentyn,
l
trosedd o dan adran 30 oʼr Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra) mewn achos pan foʼr butain yn blentyn,
m
trosedd o dan adran 31 oʼr Ddeddf honno (menyw yn arfer rheolaeth dros butain) mewn achos pan foʼr butain yn blentyn,
n
trosedd o dan adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 195931 (cyfathrach rywiol â chleifion), er gwaethaf bod y ddarpariaeth wedi ei diddymu, drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn,
o
trosedd o dan adran 4 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 196732 (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol) (er gwaethaf bod y ddarpariaeth wedi ei diddymu) drwy—
i
caffael plentyn i gyflawni gweithred o sodomiaeth ag unrhyw berson, neu
ii
caffael unrhyw berson i gyflawni gweithred o sodomiaeth â phlentyn,
p
trosedd o dan adran 5 oʼr Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw) drwy fyw yn gyfan gwbl neuʼn rhannol ar enillion puteindra plentyn, a
q
trosedd o dan adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 196833 (bwrgleriaeth), drwy fynd i adeilad neu ran o adeilad gan fwriadu treisio plentyn.
14
Nid yw paragraffau 11(1)(c) a 13(e) ac (f) yn cynnwys troseddau mewn achos pan oedd y troseddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawni’r drosedd.
ATODLEN 3Materion a rhwymedigaethau mewn cytundebau gofal maeth
1
Materion iʼw cofnodi—
a
telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth,
b
y cymorth aʼr hyfforddiant sydd iʼw rhoi iʼr rhiant maeth,
c
y weithdrefn ar gyfer adolygu cymeradwyaeth rhiant maeth,
d
y weithdrefn mewn cysylltiad â lleoli plant,
e
y trefniadau ar gyfer bodloni unrhyw atebolrwyddau cyfreithiol y rhiant maeth syʼn codi oherwydd lleoliad,
f
y weithdrefn sydd ar gael i rieni maeth ar gyfer cyflwyno cwynion a sylwadau.
2
Rhwymedigaethauʼr rhiant maeth—
a
gofalu am unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gydag ef fel pe baiʼr plentyn yn aelod o deuluʼr rhiant maeth a hybu lles y plentyn hwnnw gan roi sylw iʼr cynlluniau hirdymor a byrdymor ar gyfer y plentyn,
b
rhoi hysbysiad ysgrifenedig iʼr darparwr gwasanaethau maethu yn ddi-oed, gyda manylion llawn, am—
i
unrhyw fwriad i newid cyfeiriad y rhiant maeth,
ii
unrhyw newid yn y personau syʼn ffurfioʼr aelwyd,
iii
unrhyw newid arall yn amgylchiadau personol y rhiant maeth ac unrhyw ddigwyddiad arall syʼn effeithio naill ai ar ei allu i ofalu am unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli neu ar addasrwydd yr aelwyd, a
iv
unrhyw archiad neu gais i fabwysiadu plant, neu i gofrestru ar gyfer gwarchod plant neu ofal dydd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010,
c
peidio â chosbiʼn gorfforol unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gydaʼr rhiant maeth,
d
sicrhau bod unrhyw wybodaeth syʼn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gydaʼr rhiant maeth, â theuluʼr plentyn neu ag unrhyw berson arall, ac sydd wedi ei rhoi iddo yn gyfrinachol mewn cysylltiad â lleoliad, yn cael ei chadwʼn gyfrinachol ac nad ywʼn cael ei datgelu i unrhyw berson heb gydsyniad y darparwr gwasanaethau maethu,
e
darparu gofal a chymorth i blentyn sydd wedi ei leoli gydaʼr rhiant maeth yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn ac mewn ffordd syʼn cynnal, yn amddiffyn ac yn hybu diogelwch a llesiant y plentyn,
f
cynnal perthynas bersonol a phroffesiynol dda â phlentyn sydd wedi ei leoli gydaʼr rhiant maeth,
g
peidio ag amddifadu unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gydaʼr rhiant maeth o ryddid heb awdurdod cyfreithlon,
h
hybu cyswllt rhwng plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth a rhieni, perthnasau a ffrindiauʼr plentyn, yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn ac unrhyw orchymyn llys syʼn ymwneud â chyswllt,
i
cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnauʼr darparwr gwasanaethau maethu,
j
hybu iechyd a datblygiad plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth,
k
sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau aʼr cyfarpar a ddefnyddir gan rieni maeth—
i
yn addas ac yn ddiogel i’r diben y bwriedir iddynt gael eu defnyddio ato,
ii
yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel,
iii
yn cael eu cynnal aʼu cadwʼn briodol, ac
iv
yn cael eu cadwʼn lân yn unol â safon sy’n briodol i’r diben y maent yn cael eu defnyddio ato,
l
cydweithredu fel y boʼn rhesymol ofynnol â Gweinidogion Cymru ac yn benodol ganiatáu i berson sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru gyf-weld âʼr rhiant maeth ac ymweld â chartref y rhiant maeth ar unrhyw adeg resymol,
m
hysbysuʼr darparwr gwasanaethau maethu yn rheolaidd am gynnydd y plentyn aʼi hysbysu cyn gynted ag y boʼn rhesymol ymarferol am unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol syʼn effeithio ar y plentyn.