ATODLEN 3Materion a rhwymedigaethau mewn cytundebau gofal maeth
2
Rhwymedigaethauʼr rhiant maeth—
a
gofalu am unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gydag ef fel pe baiʼr plentyn yn aelod o deuluʼr rhiant maeth a hybu lles y plentyn hwnnw gan roi sylw iʼr cynlluniau hirdymor a byrdymor ar gyfer y plentyn,
b
rhoi hysbysiad ysgrifenedig iʼr darparwr gwasanaethau maethu yn ddi-oed, gyda manylion llawn, am—
i
unrhyw fwriad i newid cyfeiriad y rhiant maeth,
ii
unrhyw newid yn y personau syʼn ffurfioʼr aelwyd,
iii
unrhyw newid arall yn amgylchiadau personol y rhiant maeth ac unrhyw ddigwyddiad arall syʼn effeithio naill ai ar ei allu i ofalu am unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli neu ar addasrwydd yr aelwyd, a
iv
unrhyw archiad neu gais i fabwysiadu plant, neu i gofrestru ar gyfer gwarchod plant neu ofal dydd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010,
c
peidio â chosbiʼn gorfforol unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gydaʼr rhiant maeth,
d
sicrhau bod unrhyw wybodaeth syʼn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gydaʼr rhiant maeth, â theuluʼr plentyn neu ag unrhyw berson arall, ac sydd wedi ei rhoi iddo yn gyfrinachol mewn cysylltiad â lleoliad, yn cael ei chadwʼn gyfrinachol ac nad ywʼn cael ei datgelu i unrhyw berson heb gydsyniad y darparwr gwasanaethau maethu,
e
darparu gofal a chymorth i blentyn sydd wedi ei leoli gydaʼr rhiant maeth yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn ac mewn ffordd syʼn cynnal, yn amddiffyn ac yn hybu diogelwch a llesiant y plentyn,
f
cynnal perthynas bersonol a phroffesiynol dda â phlentyn sydd wedi ei leoli gydaʼr rhiant maeth,
g
peidio ag amddifadu unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gydaʼr rhiant maeth o ryddid heb awdurdod cyfreithlon,
h
hybu cyswllt rhwng plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth a rhieni, perthnasau a ffrindiauʼr plentyn, yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn ac unrhyw orchymyn llys syʼn ymwneud â chyswllt,
i
cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnauʼr darparwr gwasanaethau maethu,
j
hybu iechyd a datblygiad plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth,
k
sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau aʼr cyfarpar a ddefnyddir gan rieni maeth—
i
yn addas ac yn ddiogel i’r diben y bwriedir iddynt gael eu defnyddio ato,
ii
yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel,
iii
yn cael eu cynnal aʼu cadwʼn briodol, ac
iv
yn cael eu cadwʼn lân yn unol â safon sy’n briodol i’r diben y maent yn cael eu defnyddio ato,
l
cydweithredu fel y boʼn rhesymol ofynnol â Gweinidogion Cymru ac yn benodol ganiatáu i berson sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru gyf-weld âʼr rhiant maeth ac ymweld â chartref y rhiant maeth ar unrhyw adeg resymol,
m
hysbysuʼr darparwr gwasanaethau maethu yn rheolaidd am gynnydd y plentyn aʼi hysbysu cyn gynted ag y boʼn rhesymol ymarferol am unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol syʼn effeithio ar y plentyn.