ATODLEN 2Troseddau a bennir at ddibenion rheoliad 7(9) a (10)

RHAN 2

11

1

Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 195627

a

adran 1 (treisio),

b

adran 5 (cyfathrach â merch o dan 13 oed),

c

yn ddarostyngedig i baragraff 14, adran 6 (cyfathrach â merch rhwng 13 ac 16 oed),

d

adran 19 neu 20 (herwgydio merch o dan 18 neu 16 oed),

e

adran 25 neu 26 (caniatáu i ferch o dan 13 oed, neu rhwng 13 ac 16 oed, ddefnyddio mangre i gael cyfathrach), ac

f

adran 28 (achosi neu annog puteinio merch o dan 16 oed, cyfathrach â hi neu ymosodiad anweddus arni).

2

Trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster gyda Phlant 196028 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc).

3

Trosedd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Trosedd 197729 (ysgogi merch o dan 16 oed i gyflawni llosgach).

4

Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 200030 (camfanteisio ar ymddiriedaeth).

12

Daw person o fewn y paragraff hwn os yw wedi ei euogfarnu o unrhyw un neu ragor oʼr troseddau a ganlyn yn erbyn plentyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd neu os yw wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd oʼr fath—

a

trosedd o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956 (caffael menyw drwy fygwth neu haeru anwir),

b

trosedd o dan adran 4 oʼr Ddeddf honno (rhoi cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach),

c

trosedd o dan adran 14 neu 15 oʼr Ddeddf honno (ymosod anweddus),

d

trosedd o dan adran 16 oʼr Ddeddf honno (ymosod gan fwriadu cyflawni sodomiaeth),

e

trosedd o dan adran 17 oʼr Ddeddf honno (herwgydio menyw drwy rym neu oherwydd ei heiddo), ac

f

trosedd o dan adran 24 oʼr Ddeddf honno (cadw menyw mewn puteindy neu mewn mangre arall).

13

Daw person o fewn y paragraff hwn os yw wedi ei euogfarnu o unrhyw un neu ragor oʼr troseddau a ganlyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd neu os yw wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd oʼr fath—

a

trosedd o dan adran 7 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956 (cyfathrach â pherson diffygiol) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn,

b

trosedd o dan adran 9 oʼr Ddeddf honno (caffael person diffygiol) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol,

c

trosedd o dan adran 10 oʼr Ddeddf honno (llosgach gan ddyn) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn,

d

trosedd o dan adran 11 oʼr Ddeddf honno (llosgach gan fenyw) drwy ganiatáu i blentyn gael cyfathrach rywiol â hi,

e

yn ddarostyngedig i baragraff 14, trosedd o dan adran 12 oʼr Ddeddf honno drwy gyflawni sodomiaeth â phlentyn o dan 16 oed,

f

yn ddarostyngedig i baragraff 14, trosedd o dan adran 13 oʼr Ddeddf honno drwy gyflawni gweithred o anwedduster difrifol â phlentyn,

g

trosedd o dan adran 21 oʼr Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol oddi wrth riant neu warcheidwad) drwy gymryd plentyn o feddiant ei riant neu ei warcheidwad,

h

trosedd o dan adran 22 oʼr Ddeddf honno (achosi puteinio menywod) mewn perthynas â phlentyn,

i

trosedd o dan adran 23 oʼr Ddeddf honno (caffael merch o dan 21 oed) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol â thrydydd person,

j

trosedd o dan adran 27 oʼr Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach) drwy gymell neu ganiatáu i blentyn droi at fangre neu fod mewn mangre at ddiben cael cyfathrach rywiol,

k

trosedd o dan adran 29 oʼr Ddeddf honno (achosi neu annog puteinio person diffygiol) drwy achosi neu annog puteinio plentyn,

l

trosedd o dan adran 30 oʼr Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra) mewn achos pan foʼr butain yn blentyn,

m

trosedd o dan adran 31 oʼr Ddeddf honno (menyw yn arfer rheolaeth dros butain) mewn achos pan foʼr butain yn blentyn,

n

trosedd o dan adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 195931 (cyfathrach rywiol â chleifion), er gwaethaf bod y ddarpariaeth wedi ei diddymu, drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn,

o

trosedd o dan adran 4 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 196732 (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol) (er gwaethaf bod y ddarpariaeth wedi ei diddymu) drwy—

i

caffael plentyn i gyflawni gweithred o sodomiaeth ag unrhyw berson, neu

ii

caffael unrhyw berson i gyflawni gweithred o sodomiaeth â phlentyn,

p

trosedd o dan adran 5 oʼr Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw) drwy fyw yn gyfan gwbl neuʼn rhannol ar enillion puteindra plentyn, a

q

trosedd o dan adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 196833 (bwrgleriaeth), drwy fynd i adeilad neu ran o adeilad gan fwriadu treisio plentyn.

14

Nid yw paragraffau 11(1)(c) a 13(e) ac (f) yn cynnwys troseddau mewn achos pan oedd y troseddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawni’r drosedd.