ATODLEN 2Troseddau a bennir at ddibenion rheoliad 7(9) a (10)
RHAN 1
Troseddau yng Nghymru a Lloegr1
Unrhyw un oʼr troseddau a ganlyn yn erbyn oedolyn—
a
trosedd treisio o dan adran 1 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 18,
b
trosedd ymosod drwy dreiddio o dan adran 2 oʼr Ddeddf honno,
c
trosedd achosi i berson gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol heb gydsyniad o dan adran 4 oʼr Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (4) oʼr adran honno,
d
trosedd gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl syʼn llesteirio dewis o dan adran 30 oʼr Ddeddf honno, os oedd y cyffwrdd yn dod o fewn is-adran (3) oʼr adran honno,
e
trosedd achosi neu ysgogi person ag anhwylder meddwl syʼn llesteirio dewis i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol o dan adran 31 oʼr Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd a achoswyd neu a ysgogwyd yn dod o fewn is-adran (3) oʼr adran honno,
f
trosedd cymell, bygwth neu ddichell i gaffael gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl o dan adran 34 oʼr Ddeddf honno, os oedd y cyffwrdd o dan sylw yn dod o fewn is-adran (2) oʼr adran honno, ac
g
trosedd achosi i berson ag anhwylder meddwl gymryd rhan neu gytuno i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol drwy gymell, bygwth neu ddichell o dan adran 35 oʼr Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (2) oʼr adran honno.
Troseddau yn yr Alban
2
Trosedd o dan adran 1 (treisio) a 18 (treisio plentyn ifanc) o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 200919.
3
Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 199520, ac eithrio mewn achos pan oedd y troseddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawniʼr drosedd.
4
Trosedd plagiwm (lladrata plentyn o dan oedran aeddfedrwydd).
5
Trosedd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 198221 (ffotograffau anweddus o blant).
6
Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 200022 (camfanteisio ar ymddiriedaeth).
Troseddau yng Ngogledd Iwerddon
7
Trosedd o dan Erthygl 5 (treisio) ac Erthygl 12 (treisio plentyn o dan 13 oed) o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 200823.
8
Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 196824, ac eithrio yn yr achos pan oedd y troseddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawniʼr drosedd.
9
Trosedd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 197825 (ffotograffau anweddus).
10
Trosedd yn groes i Erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth, etc) (Gogledd Iwerddon) 198826 (meddu ar ffotograffau anweddus o blant).