Search Legislation

Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1

Troseddau yng Nghymru a Lloegr

1.  Unrhyw un oʼr troseddau a ganlyn yn erbyn oedolyn—

(a)trosedd treisio o dan adran 1 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (1),

(b)trosedd ymosod drwy dreiddio o dan adran 2 oʼr Ddeddf honno,

(c)trosedd achosi i berson gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol heb gydsyniad o dan adran 4 oʼr Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (4) oʼr adran honno,

(d)trosedd gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl syʼn llesteirio dewis o dan adran 30 oʼr Ddeddf honno, os oedd y cyffwrdd yn dod o fewn is-adran (3) oʼr adran honno,

(e)trosedd achosi neu ysgogi person ag anhwylder meddwl syʼn llesteirio dewis i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol o dan adran 31 oʼr Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd a achoswyd neu a ysgogwyd yn dod o fewn is-adran (3) oʼr adran honno,

(f)trosedd cymell, bygwth neu ddichell i gaffael gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl o dan adran 34 oʼr Ddeddf honno, os oedd y cyffwrdd o dan sylw yn dod o fewn is-adran (2) oʼr adran honno, ac

(g)trosedd achosi i berson ag anhwylder meddwl gymryd rhan neu gytuno i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol drwy gymell, bygwth neu ddichell o dan adran 35 oʼr Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (2) oʼr adran honno.

Troseddau yn yr Alban

2.  Trosedd o dan adran 1 (treisio) a 18 (treisio plentyn ifanc) o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009(2).

3.  Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(3), ac eithrio mewn achos pan oedd y troseddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawniʼr drosedd.

4.  Trosedd plagiwm (lladrata plentyn o dan oedran aeddfedrwydd).

5.  Trosedd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982(4) (ffotograffau anweddus o blant).

6.  Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000(5) (camfanteisio ar ymddiriedaeth).

Troseddau yng Ngogledd Iwerddon

7.  Trosedd o dan Erthygl 5 (treisio) ac Erthygl 12 (treisio plentyn o dan 13 oed) o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008(6).

8.  Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(7), ac eithrio yn yr achos pan oedd y troseddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawniʼr drosedd.

9.  Trosedd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978(8) (ffotograffau anweddus).

10.  Trosedd yn groes i Erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth, etc) (Gogledd Iwerddon) 1988(9) (meddu ar ffotograffau anweddus o blant).

(3)

1995 p. 46. Diwygiwyd Atodlen 1 gan baragraff 2(8)(a) a (b) o Atodlen 5 i Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009, adrannau 7(1) ac 8(2) o Ddeddf Gwahardd Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (Yr Alban) 2005 (dsa 8), paragraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Amddiffyn Plant ac Atal Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2005 (dsa 9) a chan adran 41(2) o Ddeddf Trwyddedu Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2010 (dsa 13).

(4)

1982 p. 45. Diwygiwyd adran 52 gan adran 84(6) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33) (“Deddf 1994”) a pharagraff 17 o Atodlen 9 iddi, paragraff 44(3) o Atodlen 4 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Darpariaethau Canlyniadol) (Yr Alban) 1995 (p. 40) a pharagraff 89 o Atodlen 15 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33) (“Deddf 1988”). Mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf 1988 ac feʼi diwygiwyd gan adran 84(7) o Ddeddf 1994.

(5)

2000 p. 44. Diwygiwyd adran 3 gan baragraff 62 o Atodlen 28 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) ac feʼi diddymwyd gan Atodlen 6 i Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009 (nad yw mewn grym eto).

(6)

O.S. 2008/1769 (G.I. 2) (“Gorchymyn 2008”).

(7)

1968 p. 34 (G.I.). Diwygiwyd Atodlen 1 gan baragraff 7 o Atodlen 10 i Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004 (p. 28), Erthygl 7 o Orchymyn Herwgydio Plant (Gogledd Iwerddon) 1985 (G.I. 17), paragraff 54(b) o Atodlen 9 i Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (G.I. 17), paragraff 6(a), (b) ac (c) o Atodlen 1 i Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 2003 (G.I. 13), paragraff 18(3) o Atodlen 6 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (p. 42), paragraff 12(4) o Atodlen 1 i Orchymyn 2008 a pharagraff 57 o Atodlen 21 i Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 (p. 25).

(8)

O.S. 1978/1047 (G.I. 17). Diwygiwyd Erthygl 3 gan adran 84 o Ddeddf 1994 ac Erthygl 42(4) o Orchymyn 2008.

(9)

O.S. 1988/1847 (G.I. 17). Diwygiwyd Erthygl 15 gan adran 41(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000 (p. 43), adran 84(11) o Ddeddf 1994, paragraff 25 o Atodlen 26 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 ac Erthygl 42(7) o Orchymyn 2008.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources