ATODLEN 2Troseddau a bennir at ddibenion rheoliad 7(9) a (10)
RHAN 2
13
Daw person o fewn y paragraff hwn os yw wedi ei euogfarnu o unrhyw un neu ragor oʼr troseddau a ganlyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd neu os yw wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd oʼr fath—
a
trosedd o dan adran 7 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956 (cyfathrach â pherson diffygiol) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn,
b
trosedd o dan adran 9 oʼr Ddeddf honno (caffael person diffygiol) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol,
c
trosedd o dan adran 10 oʼr Ddeddf honno (llosgach gan ddyn) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn,
d
trosedd o dan adran 11 oʼr Ddeddf honno (llosgach gan fenyw) drwy ganiatáu i blentyn gael cyfathrach rywiol â hi,
e
yn ddarostyngedig i baragraff 14, trosedd o dan adran 12 oʼr Ddeddf honno drwy gyflawni sodomiaeth â phlentyn o dan 16 oed,
f
yn ddarostyngedig i baragraff 14, trosedd o dan adran 13 oʼr Ddeddf honno drwy gyflawni gweithred o anwedduster difrifol â phlentyn,
g
trosedd o dan adran 21 oʼr Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol oddi wrth riant neu warcheidwad) drwy gymryd plentyn o feddiant ei riant neu ei warcheidwad,
h
trosedd o dan adran 22 oʼr Ddeddf honno (achosi puteinio menywod) mewn perthynas â phlentyn,
i
trosedd o dan adran 23 oʼr Ddeddf honno (caffael merch o dan 21 oed) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol â thrydydd person,
j
trosedd o dan adran 27 oʼr Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach) drwy gymell neu ganiatáu i blentyn droi at fangre neu fod mewn mangre at ddiben cael cyfathrach rywiol,
k
trosedd o dan adran 29 oʼr Ddeddf honno (achosi neu annog puteinio person diffygiol) drwy achosi neu annog puteinio plentyn,
l
trosedd o dan adran 30 oʼr Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra) mewn achos pan foʼr butain yn blentyn,
m
trosedd o dan adran 31 oʼr Ddeddf honno (menyw yn arfer rheolaeth dros butain) mewn achos pan foʼr butain yn blentyn,
n
trosedd o dan adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 195931 (cyfathrach rywiol â chleifion), er gwaethaf bod y ddarpariaeth wedi ei diddymu, drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn,
o
trosedd o dan adran 4 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 196732 (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol) (er gwaethaf bod y ddarpariaeth wedi ei diddymu) drwy—
i
caffael plentyn i gyflawni gweithred o sodomiaeth ag unrhyw berson, neu
ii
caffael unrhyw berson i gyflawni gweithred o sodomiaeth â phlentyn,
p
trosedd o dan adran 5 oʼr Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw) drwy fyw yn gyfan gwbl neuʼn rhannol ar enillion puteindra plentyn, a
q
trosedd o dan adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 196833 (bwrgleriaeth), drwy fynd i adeilad neu ran o adeilad gan fwriadu treisio plentyn.