Search Legislation

Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018

Statws

This is the original version (as it was originally made).

13.  Daw person o fewn y paragraff hwn os yw wedi ei euogfarnu o unrhyw un neu ragor oʼr troseddau a ganlyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd neu os yw wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd oʼr fath—

(a)trosedd o dan adran 7 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956 (cyfathrach â pherson diffygiol) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn,

(b)trosedd o dan adran 9 oʼr Ddeddf honno (caffael person diffygiol) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol,

(c)trosedd o dan adran 10 oʼr Ddeddf honno (llosgach gan ddyn) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn,

(d)trosedd o dan adran 11 oʼr Ddeddf honno (llosgach gan fenyw) drwy ganiatáu i blentyn gael cyfathrach rywiol â hi,

(e)yn ddarostyngedig i baragraff 14, trosedd o dan adran 12 oʼr Ddeddf honno drwy gyflawni sodomiaeth â phlentyn o dan 16 oed,

(f)yn ddarostyngedig i baragraff 14, trosedd o dan adran 13 oʼr Ddeddf honno drwy gyflawni gweithred o anwedduster difrifol â phlentyn,

(g)trosedd o dan adran 21 oʼr Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol oddi wrth riant neu warcheidwad) drwy gymryd plentyn o feddiant ei riant neu ei warcheidwad,

(h)trosedd o dan adran 22 oʼr Ddeddf honno (achosi puteinio menywod) mewn perthynas â phlentyn,

(i)trosedd o dan adran 23 oʼr Ddeddf honno (caffael merch o dan 21 oed) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol â thrydydd person,

(j)trosedd o dan adran 27 oʼr Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach) drwy gymell neu ganiatáu i blentyn droi at fangre neu fod mewn mangre at ddiben cael cyfathrach rywiol,

(k)trosedd o dan adran 29 oʼr Ddeddf honno (achosi neu annog puteinio person diffygiol) drwy achosi neu annog puteinio plentyn,

(l)trosedd o dan adran 30 oʼr Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra) mewn achos pan foʼr butain yn blentyn,

(m)trosedd o dan adran 31 oʼr Ddeddf honno (menyw yn arfer rheolaeth dros butain) mewn achos pan foʼr butain yn blentyn,

(n)trosedd o dan adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959(1) (cyfathrach rywiol â chleifion), er gwaethaf bod y ddarpariaeth wedi ei diddymu, drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn,

(o)trosedd o dan adran 4 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1967(2) (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol) (er gwaethaf bod y ddarpariaeth wedi ei diddymu) drwy—

(i)caffael plentyn i gyflawni gweithred o sodomiaeth ag unrhyw berson, neu

(ii)caffael unrhyw berson i gyflawni gweithred o sodomiaeth â phlentyn,

(p)trosedd o dan adran 5 oʼr Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw) drwy fyw yn gyfan gwbl neuʼn rhannol ar enillion puteindra plentyn, a

(q)trosedd o dan adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 1968(3) (bwrgleriaeth), drwy fynd i adeilad neu ran o adeilad gan fwriadu treisio plentyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources