ATODLEN 2Troseddau a bennir at ddibenion rheoliad 7(9) a (10)

RHAN 1

Troseddau yng Nghymru a Lloegr1

Unrhyw un oʼr troseddau a ganlyn yn erbyn oedolyn—

a

trosedd treisio o dan adran 1 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 18,

b

trosedd ymosod drwy dreiddio o dan adran 2 oʼr Ddeddf honno,

c

trosedd achosi i berson gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol heb gydsyniad o dan adran 4 oʼr Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (4) oʼr adran honno,

d

trosedd gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl syʼn llesteirio dewis o dan adran 30 oʼr Ddeddf honno, os oedd y cyffwrdd yn dod o fewn is-adran (3) oʼr adran honno,

e

trosedd achosi neu ysgogi person ag anhwylder meddwl syʼn llesteirio dewis i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol o dan adran 31 oʼr Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd a achoswyd neu a ysgogwyd yn dod o fewn is-adran (3) oʼr adran honno,

f

trosedd cymell, bygwth neu ddichell i gaffael gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl o dan adran 34 oʼr Ddeddf honno, os oedd y cyffwrdd o dan sylw yn dod o fewn is-adran (2) oʼr adran honno, ac

g

trosedd achosi i berson ag anhwylder meddwl gymryd rhan neu gytuno i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol drwy gymell, bygwth neu ddichell o dan adran 35 oʼr Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (2) oʼr adran honno.