- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 7(2), (5) a (12)
1. Enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni.
2. Manylion iechyd (wedi eu hategu gan adroddiad meddygol).
3. Manylion unrhyw aelodau eraill oʼr aelwyd syʼn oedolion.
4. Manylion y plant yn y teulu, pa un a ydynt yn aelodau oʼr aelwyd ai peidio, ac unrhyw blant eraill yn yr aelwyd.
5. Manylion eu llety.
6. Canlyniad unrhyw archiad neu gais a wnaed ganddynt neu gan unrhyw aelod arall oʼu haelwyd i faethu neu fabwysiadu plant, neu i gofrestruʼn warchodwr plant neuʼn ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), gan gynnwys manylion unrhyw gymeradwyaeth flaenorol syʼn ymwneud â hwy neu ag unrhyw aelod arall oʼr aelwyd, neu unrhyw wrthodiad blaenorol i gymeradwyaeth oʼr fath.
7. Os ywʼr person, yn y tair blynedd flaenorol, wedi bod yn rhiant maeth a gymeradwywyd gan ddarparwr gwasanaethau maethu arall neu ddarparwr gwasanaethau maethu yn Lloegr, enw a chyfeiriad y darparwr gwasanaethau maethu hwnnw.
8. Enwau a chyfeiriadau dau berson a fydd yn darparu geirda personol ar gyfer y person.
9. Mewn perthynas âʼr person ac unrhyw aelod arall o aelwyd y person syʼn 18 oed neu drosodd, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(2) syʼn cynnwys gwybodaeth addasrwydd syʼn ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) oʼr Ddeddf honno).
10. Manylion priodas, partneriaeth sifil neu berthynas debyg gyfredol ac unrhyw briodas, partneriaeth sifil neu berthynas debyg flaenorol.
11. Manylion personoliaeth.
12. Argyhoeddiad crefyddol, a gallu i ofalu am blentyn o unrhyw argyhoeddiad crefyddol penodol.
13. Tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol a gallu i ofalu am blentyn o unrhyw darddiad hiliol neu gefndir diwylliannol neu ieithyddol penodol.
14. Gallu i ddarparu cymorth i blentyn mewn perthynas âʼi gyfeiriadedd rhywiol aʼi hunaniaeth o ran rhywedd.
15. Cyflogaeth neu alwedigaeth yn y gorffennol aʼr presennol, safon byw, gweithgareddau hamdden a diddordebau.
16. Profiad blaenorol (os o gwbl) o ofalu am eu plant eu hunain a phlant eraill.
17. Sgiliau, cymhwysedd a photensial syʼn berthnasol iʼw gallu i ofaluʼn effeithiol am blentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: