Adolygu a therfynu cymeradwyaeth9
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu adolygu cymeradwyaeth pob rhiant maeth yn unol â’r rheoliad hwn.
2
Rhaid cynnal adolygiad o fewn blwyddyn ar ôl cael y gymeradwyaeth fan bellaf, ac ar ôl hynny pa bryd bynnag y mae’r darparwr gwasanaethau maethu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol, ond o leiaf unwaith y flwyddyn.
3
Wrth gynnal adolygiad, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu—
a
gwneud unrhyw ymholiadau a chael unrhyw wybodaeth y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn adolygu a yw’r rhiant maeth yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn aelwyd addas,
b
ceisio ac ystyried safbwyntiau—
i
y rhiant maeth;
ii
(yn ddarostyngedig i oedran y plentyn a’i ddealltwriaeth) unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda’r rhiant maeth, a
iii
yn achos darparwr gwasanaethau maethu rheoleiddiedig, unrhyw awdurdod lleol sydd wedi lleoli plentyn gyda’r rhiant maeth yn y flwyddyn flaenorol.
4
Ar ddiwedd yr adolygiad rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu lunio adroddiad ysgrifenedig sy’n nodi—
a
a yw’r rhiant maeth yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas, a
b
a yw telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth yn parhau i fod yn briodol.
5
Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu, ar adeg yr adolygiad cyntaf o dan y rheoliad hwn, atgyfeirio ei adroddiad i’r panel maethu er mwyn iddo ei ystyried, a chaiff wneud hynny ar adeg unrhyw adolygiad dilynol.
6
Os yw’r darparwr gwasanaethau maethu yn penderfynu, ar ôl ystyried unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu, fod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas a bod telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth yn parhau i fod yn briodol, rhaid i’r darparwr roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rhiant maeth o’r penderfyniad hwnnw.
7
Os nad yw’r darparwr gwasanaethau maethu, wrth ystyried unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu, wedi ei fodloni mwyach fod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas, neu fod telerau’r gymeradwyaeth yn briodol, rhaid i’r darparwr (yn ddarostyngedig i baragraff (9))—
a
rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r rhiant maeth o’r cynnig i derfynu neu, yn ôl y digwydd, ddiwygio telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth (“penderfyniad”), ynghyd â’r rhesymau dros y cynnig hwnnw a chopi o unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu, a
b
hysbysu’r rhiant maeth y caiff, o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad—
i
cyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig y mae’r rhiant maeth yn dymuno eu cyflwyno i’r darparwr gwasanaethau maethu, neu
ii
gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o’r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol.
8
Nid yw paragraff (7)(b)(ii) yn gymwys i achos pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu yn penderfynu nad yw o’r farn mwyach fod person yn addas i weithredu neu i barhau i weithredu, yn ôl y digwydd, fel rhiant maeth o dan reoliad 7(11).
9
Os, o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b)—
a
nad yw’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael unrhyw sylwadau, a
b
nad yw’r rhiant maeth yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o’r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol,
caiff y darparwr gwasanaethau maethu fwrw ymlaen i wneud ei benderfyniad.
10
Os yw’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b), rhaid i’r darparwr—
a
atgyfeirio’r achos i’r panel maethu er mwyn iddo ei ystyried ymhellach, a
b
gwneud penderfyniad, gan ystyried unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu.
11
Os yw’r rhiant maeth yn gwneud cais, o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b), i Weinidogion Cymru am adolygiad o’r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu wneud ei benderfyniad gan ystyried unrhyw argymhellion a wneir gan y panel maethu ac argymhelliad y panel adolygu annibynnol.
12
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (9), (10)(b) neu (11), rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rhiant maeth sy’n datgan, yn ôl y digwydd—
a
bod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas, a bod telerau’r gymeradwyaeth yn parhau i fod yn briodol,
b
bod cymeradwyaeth y rhiant maeth wedi ei therfynu o ddyddiad penodedig, a’r rhesymau dros ei therfynu, neu
c
telerau diwygiedig y gymeradwyaeth a’r rhesymau dros ei diwygio.
13
Caiff rhiant maeth roi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr gwasanaethau maethu ar unrhyw adeg sy’n nodi nad yw’n dymuno parhau i weithredu fel rhiant maeth mwyach, ac ar hynny mae cymeradwyaeth y rhiant maeth wedi ei therfynu gydag effaith o 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael yr hysbysiad.
14
Rhaid i gopi o unrhyw hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwn gael ei anfon i’r awdurdod lleol ar gyfer unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda’r rhiant maeth (oni bai mai’r awdurdod lleol yw’r darparwr gwasanaethau maethu hefyd).
15
Mewn achos pan fo panel adolygu annibynnol wedi gwneud argymhelliad, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu anfon copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (13) at Weinidogion Cymru.