Asesu darpar rieni maeth7
1
Pan fo person yn gwneud cais i ddod yn rhiant maeth a bod y darparwr gwasanaethau maethu yn penderfynu asesu addasrwydd y person hwnnw i ddod yn rhiant maeth, rhaid cynnal unrhyw asesiad o’r fath yn unol â’r rheoliad hwn.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o ran y darparwr gwasanaethau maethu—
a
rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gael yr wybodaeth a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 sy’n ymwneud â’r person ac aelodau eraill o aelwyd y person a’i deulu,
b
pan fo’r person wedi bod yn rhiant maeth o fewn y tair blynedd flaenorol ac wedi ei gymeradwyo felly gan ddarparwr gwasanaethau maethu arall neu gan ddarparwr gwasanaethau maethu yn Lloegr, rhaid iddo ofyn am eirda ysgrifenedig oddi wrth y darparwr gwasanaethau maethu arall hwnnw,
c
ac eithrio mewn achos pan fo is-baragraff (b) yn gymwys a bod y darparwr gwasanaethau maethu arall yn darparu’r geirda y gofynnir amdano, rhaid iddo gyf-weld ag o leiaf ddau unigolyn sydd wedi eu henwebu gan y person i ddarparu geirda personol ar ei gyfer, a llunio adroddiadau ysgrifenedig am y cyfweliadau,
d
ac eithrio pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu yn awdurdod lleol a bod y person yn byw yn ardal yr awdurdod hwnnw, rhaid iddo ymgynghori â’r awdurdod lleol y mae’r person yn byw yn ei ardal, ac ystyried safbwyntiau’r awdurdod hwnnw,
e
pan fo’r person wedi ei gymeradwyo yn rhiant maeth gan ddarparwr gwasanaethau maethu arall a’i fod yn cydsynio i hynny, caiff ofyn am gael mynediad i’r cofnodion perthnasol a luniwyd gan y darparwr gwasanaethau maethu arall hwnnw mewn perthynas â’r person, ac
f
pan fo’r person wedi ei gymeradwyo yn ddarpar fabwysiadydd gan asiantaeth fabwysiadu a’i fod yn cydsynio i hynny, caiff ofyn am gael mynediad i’r cofnodion perthnasol a luniwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu honno mewn perthynas â’r person hwnnw.
3
Pan fo—
a
y darparwr gwasanaethau maethu, ar ôl rhoi sylw i unrhyw wybodaeth a geir o dan baragraff (2), yn penderfynu nad yw’r person yn addas i ddod yn rhiant maeth, neu
b
y person yn anaddas i ddod yn rhiant maeth yn rhinwedd paragraffau (8) i (10), ac nid yw paragraff (11) yn gymwys,
rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu hysbysu’r person yn ysgrifenedig nad yw’n addas i fod yn rhiant maeth, gan roi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
4
O ran yr hysbysiad ym mharagraff (3)—
a
nid yw’n benderfyniad y caiff y person wneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol mewn cysylltiad ag ef,
b
caniateir iddo gael ei roi er gwaethaf nad yw’r darparwr gwasanaethau maethu wedi cael yr holl wybodaeth a nodir ym mharagraff (2), a
c
ni chaniateir iddo gael ei roi fwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i’r darparwr gwasanaethau maethu gael yr holl wybodaeth a nodir ym mharagraff (2).
5
Pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu wedi cael yr holl wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) ac na fo wedi rhoi’r hysbysiad ym mharagraff (3) o fewn 10 niwrnod gwaith i wneud hynny, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu, yn ddarostyngedig i baragraff (6)—
a
cael yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1 sy’n ymwneud â’r person ac aelodau eraill o aelwyd y person ac unrhyw wybodaeth arall yr ystyrir ei bod yn berthnasol,
b
ystyried a yw’r person yn addas i fod yn rhiant maeth ac a yw aelwyd y person yn addas ar gyfer unrhyw blentyn,
c
llunio adroddiad ysgrifenedig ar y person sy’n cynnwys y materion a ganlyn—
i
yr wybodaeth sy’n ofynnol gan Atodlen 1 ac unrhyw wybodaeth arall y mae’r darparwr gwasanaethau maethu yn ystyried ei bod yn berthnasol,
ii
asesiad y darparwr gwasanaethau maethu o addasrwydd y person i fod yn rhiant maeth; a
iii
cynigion y darparwr gwasanaethau maethu ynghylch unrhyw delerau cymeradwyo, a
d
hysbysu’r person bod yr achos i’w atgyfeirio i’r panel maethu, a rhoi copi i’r person o’r adroddiad a lunnir o dan is-baragraff (c) gan wahodd y person i anfon unrhyw sylwadau yn ysgrifenedig i’r darparwr gwasanaethau maethu o fewn 10 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad yr anfonir yr hysbysiad.
6
Pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu, ar ôl rhoi sylw i unrhyw wybodaeth a geir o dan baragraff (5)(a), yn penderfynu nad yw’r person yn debygol o gael ei ystyried yn addas i ddod yn rhiant maeth, caiff fwrw ymlaen i lunio adroddiad ysgrifenedig o dan baragraff (5)(c) er gwaethaf nad yw o bosibl wedi cael yr holl wybodaeth am y person sy’n ofynnol gan baragraff (5)(c).
7
Ar ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(d) (neu pan geir sylwadau’r person, pa un bynnag sydd gynharaf), rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu anfon—
a
yr adroddiad a lunnir o dan baragraff (5)(c),
b
sylwadau’r person ar yr adroddiad hwnnw, os oes sylwadau, ac
c
unrhyw wybodaeth berthnasol arall a geir gan y darparwr gwasanaethau maethu,
i’r panel maethu.
8
Yn ddarostyngedig i baragraff (11), nid yw’r person yn addas i fod yn rhiant maeth os yw’r person, neu unrhyw aelod o aelwyd y person sy’n 18 oed neu drosodd—
a
wedi ei euogfarnu o drosedd benodedig a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd, neu
b
wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd o’r fath.
9
Ym mharagraff (8), ystyr “trosedd benodedig” (“specified offence”) yw—
a
trosedd yn erbyn plentyn,
b
trosedd a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2,
c
d
unrhyw drosedd arall sy’n ymwneud ag anaf corfforol i blentyn, ac eithrio trosedd o ymosod cyffredin neu guro, ac
mae i’r ymadrodd “trosedd yn erbyn plentyn” yr ystyr a roddir i “offence against a child” gan adran 26(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 200012, er gwaethaf bod y ddarpariaeth honno wedi ei diddymu13, ac eithrio nad yw’n cynnwys trosedd yn groes i adran 9 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 200314 (gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn) mewn achos pan oedd y troseddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawni’r drosedd a bod y plentyn yn 13 oed neu drosodd.
10
Yn ddarostyngedig i baragraff (11), nid yw person yn addas i fod yn rhiant maeth os yw’r person, neu unrhyw aelod o aelwyd y person sy’n 18 oed neu drosodd—
a
wedi ei euogfarnu o drosedd a bennir ym mharagraff 11 o Ran 2 o Atodlen 2 a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd, neu wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd o’r fath, neu
b
yn dod o fewn paragraff 12 neu 13 o Ran 2 o Atodlen 2,
er gwaethaf bod y troseddau statudol yn Rhan 2 o Atodlen 2 wedi eu diddymu.
11
Caiff y darparwr gwasanaethau maethu ystyried bod person sy’n dod o fewn paragraff (8) neu (10) yn addas i fod yn rhiant maeth mewn perthynas â phlentyn (neu blant) penodol, os yw’r darparwr gwasanaethau maethu wedi ei fodloni bod hynny’n ofynnol er lles y plentyn hwnnw (neu’r plant hynny), a naill ai—
a
bod y person, neu aelod o’i aelwyd, yn berthynas i’r plentyn, neu
b
bod y person eisoes yn gweithredu fel rhiant maeth i’r plentyn.
12
Yn y rheoliad hwn, rheoliad 9 ac Atodlen 1, mae person sy’n byw yn aelwyd y person o dan drefniadau rhiant a phlentyn yn aelod o aelwyd y person.