- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
7.—(1) Pan fo person yn gwneud cais i ddod yn rhiant maeth a bod y darparwr gwasanaethau maethu yn penderfynu asesu addasrwydd y person hwnnw i ddod yn rhiant maeth, rhaid cynnal unrhyw asesiad o’r fath yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o ran y darparwr gwasanaethau maethu—
(a)rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gael yr wybodaeth a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 sy’n ymwneud â’r person ac aelodau eraill o aelwyd y person a’i deulu,
(b)pan fo’r person wedi bod yn rhiant maeth o fewn y tair blynedd flaenorol ac wedi ei gymeradwyo felly gan ddarparwr gwasanaethau maethu arall neu gan ddarparwr gwasanaethau maethu yn Lloegr, rhaid iddo ofyn am eirda ysgrifenedig oddi wrth y darparwr gwasanaethau maethu arall hwnnw,
(c)ac eithrio mewn achos pan fo is-baragraff (b) yn gymwys a bod y darparwr gwasanaethau maethu arall yn darparu’r geirda y gofynnir amdano, rhaid iddo gyf-weld ag o leiaf ddau unigolyn sydd wedi eu henwebu gan y person i ddarparu geirda personol ar ei gyfer, a llunio adroddiadau ysgrifenedig am y cyfweliadau,
(d)ac eithrio pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu yn awdurdod lleol a bod y person yn byw yn ardal yr awdurdod hwnnw, rhaid iddo ymgynghori â’r awdurdod lleol y mae’r person yn byw yn ei ardal, ac ystyried safbwyntiau’r awdurdod hwnnw,
(e)pan fo’r person wedi ei gymeradwyo yn rhiant maeth gan ddarparwr gwasanaethau maethu arall a’i fod yn cydsynio i hynny, caiff ofyn am gael mynediad i’r cofnodion perthnasol a luniwyd gan y darparwr gwasanaethau maethu arall hwnnw mewn perthynas â’r person, ac
(f)pan fo’r person wedi ei gymeradwyo yn ddarpar fabwysiadydd gan asiantaeth fabwysiadu a’i fod yn cydsynio i hynny, caiff ofyn am gael mynediad i’r cofnodion perthnasol a luniwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu honno mewn perthynas â’r person hwnnw.
(3) Pan fo—
(a)y darparwr gwasanaethau maethu, ar ôl rhoi sylw i unrhyw wybodaeth a geir o dan baragraff (2), yn penderfynu nad yw’r person yn addas i ddod yn rhiant maeth, neu
(b)y person yn anaddas i ddod yn rhiant maeth yn rhinwedd paragraffau (8) i (10), ac nid yw paragraff (11) yn gymwys,
rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu hysbysu’r person yn ysgrifenedig nad yw’n addas i fod yn rhiant maeth, gan roi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
(4) O ran yr hysbysiad ym mharagraff (3)—
(a)nid yw’n benderfyniad y caiff y person wneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol mewn cysylltiad ag ef,
(b)caniateir iddo gael ei roi er gwaethaf nad yw’r darparwr gwasanaethau maethu wedi cael yr holl wybodaeth a nodir ym mharagraff (2), a
(c)ni chaniateir iddo gael ei roi fwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i’r darparwr gwasanaethau maethu gael yr holl wybodaeth a nodir ym mharagraff (2).
(5) Pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu wedi cael yr holl wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) ac na fo wedi rhoi’r hysbysiad ym mharagraff (3) o fewn 10 niwrnod gwaith i wneud hynny, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu, yn ddarostyngedig i baragraff (6)—
(a)cael yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1 sy’n ymwneud â’r person ac aelodau eraill o aelwyd y person ac unrhyw wybodaeth arall yr ystyrir ei bod yn berthnasol,
(b)ystyried a yw’r person yn addas i fod yn rhiant maeth ac a yw aelwyd y person yn addas ar gyfer unrhyw blentyn,
(c)llunio adroddiad ysgrifenedig ar y person sy’n cynnwys y materion a ganlyn—
(i)yr wybodaeth sy’n ofynnol gan Atodlen 1 ac unrhyw wybodaeth arall y mae’r darparwr gwasanaethau maethu yn ystyried ei bod yn berthnasol,
(ii)asesiad y darparwr gwasanaethau maethu o addasrwydd y person i fod yn rhiant maeth; a
(iii)cynigion y darparwr gwasanaethau maethu ynghylch unrhyw delerau cymeradwyo, a
(d)hysbysu’r person bod yr achos i’w atgyfeirio i’r panel maethu, a rhoi copi i’r person o’r adroddiad a lunnir o dan is-baragraff (c) gan wahodd y person i anfon unrhyw sylwadau yn ysgrifenedig i’r darparwr gwasanaethau maethu o fewn 10 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad yr anfonir yr hysbysiad.
(6) Pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu, ar ôl rhoi sylw i unrhyw wybodaeth a geir o dan baragraff (5)(a), yn penderfynu nad yw’r person yn debygol o gael ei ystyried yn addas i ddod yn rhiant maeth, caiff fwrw ymlaen i lunio adroddiad ysgrifenedig o dan baragraff (5)(c) er gwaethaf nad yw o bosibl wedi cael yr holl wybodaeth am y person sy’n ofynnol gan baragraff (5)(c).
(7) Ar ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(d) (neu pan geir sylwadau’r person, pa un bynnag sydd gynharaf), rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu anfon—
(a)yr adroddiad a lunnir o dan baragraff (5)(c),
(b)sylwadau’r person ar yr adroddiad hwnnw, os oes sylwadau, ac
(c)unrhyw wybodaeth berthnasol arall a geir gan y darparwr gwasanaethau maethu,
i’r panel maethu.
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), nid yw’r person yn addas i fod yn rhiant maeth os yw’r person, neu unrhyw aelod o aelwyd y person sy’n 18 oed neu drosodd—
(a)wedi ei euogfarnu o drosedd benodedig a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd, neu
(b)wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd o’r fath.
(9) Ym mharagraff (8), ystyr “trosedd benodedig” (“specified offence”) yw—
(a)trosedd yn erbyn plentyn,
(b)trosedd a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2,
(c)trosedd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(1) mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876(2)(gwaharddiadau a chyfyngiadau) pan oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16 oed,
(d)unrhyw drosedd arall sy’n ymwneud ag anaf corfforol i blentyn, ac eithrio trosedd o ymosod cyffredin neu guro, ac
mae i’r ymadrodd “trosedd yn erbyn plentyn” yr ystyr a roddir i “offence against a child” gan adran 26(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(3), er gwaethaf bod y ddarpariaeth honno wedi ei diddymu(4), ac eithrio nad yw’n cynnwys trosedd yn groes i adran 9 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(5) (gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn) mewn achos pan oedd y troseddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawni’r drosedd a bod y plentyn yn 13 oed neu drosodd.
(10) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), nid yw person yn addas i fod yn rhiant maeth os yw’r person, neu unrhyw aelod o aelwyd y person sy’n 18 oed neu drosodd—
(a)wedi ei euogfarnu o drosedd a bennir ym mharagraff 11 o Ran 2 o Atodlen 2 a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd, neu wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd o’r fath, neu
(b)yn dod o fewn paragraff 12 neu 13 o Ran 2 o Atodlen 2,
er gwaethaf bod y troseddau statudol yn Rhan 2 o Atodlen 2 wedi eu diddymu.
(11) Caiff y darparwr gwasanaethau maethu ystyried bod person sy’n dod o fewn paragraff (8) neu (10) yn addas i fod yn rhiant maeth mewn perthynas â phlentyn (neu blant) penodol, os yw’r darparwr gwasanaethau maethu wedi ei fodloni bod hynny’n ofynnol er lles y plentyn hwnnw (neu’r plant hynny), a naill ai—
(a)bod y person, neu aelod o’i aelwyd, yn berthynas i’r plentyn, neu
(b)bod y person eisoes yn gweithredu fel rhiant maeth i’r plentyn.
(12) Yn y rheoliad hwn, rheoliad 9 ac Atodlen 1, mae person sy’n byw yn aelwyd y person o dan drefniadau rhiant a phlentyn yn aelod o aelwyd y person.
1876 p. 36. Diwygiwyd adran 42 gan Ran 9 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1993 (p. 50), a pharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 2008 (p. 12) a chan ddarpariaethau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Gweler Atodlen 10 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: