Cyfarfodydd paneli maethu6

1

Ni chaniateir i unrhyw fusnes gael ei gynnal gan banel maethu oni bai bod o leiaf y canlynol yn cyfarfod fel panel—

a

naill ai’r person a benodwyd i gadeirio’r panel neu un o’r is-gadeiryddion,

b

un aelod sy’n weithiwr cymdeithasol a chanddo o leiaf dair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso perthnasol, ac

c

tri, neu yn achos panel maethu a gyfansoddir ar y cyd o dan reoliad 4(2), bedwar aelod arall, a

phan na fo’r cadeirydd yn bresennol ac na fo’r is-gadeirydd sy’n bresennol yn annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu, rhaid i o leiaf un o aelodau eraill y panel fod yn annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu.

2

Rhaid i banel maethu wneud cofnod ysgrifenedig o’i drafodion a’r rhesymau dros ei argymhellion.