Swyddogaethau paneli maethu5
1
Swyddogaethau’r panel maethu mewn cysylltiad ag achosion a atgyfeirir iddo gan y darparwr gwasanaethau maethu yw—
a
ystyried pob cais am gymeradwyaeth ac argymell pa un a yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth ai peidio,
b
pan fo’n argymell bod cais yn cael ei gymeradwyo, argymell ar ba delerau y rhoddir y gymeradwyaeth,
c
argymell pa un a yw person yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth ai peidio, a pha un a yw telerau cymeradwyaeth y person yn parhau i fod yn briodol ai peidio—
i
ar adeg cynnal yr adolygiad cyntaf yn unol â rheoliad 9(2), a
ii
ar adeg cynnal unrhyw adolygiad arall pan ofynnir iddo wneud hynny gan y darparwr gwasanaethau maethu yn unol â rheoliad 9(5), a
d
ystyried unrhyw achos a atgyfeirir iddo o dan reoliad 8(9) neu 9(10).
2
Wrth ystyried pa argymhelliad i’w wneud o dan baragraff (1), o ran y panel maethu—
a
rhaid iddo bwyso a mesur ac ystyried yr holl wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo iddo yn unol â rheoliad 7, 8 neu 9 (yn ôl y digwydd),
b
caiff ofyn i’r darparwr gwasanaethau maethu gael unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae’r panel maethu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu ddarparu unrhyw gynhorthwy arall y mae’r panel maethu yn gofyn amdano, ac
c
caiff gael unrhyw gyngor cyfreithiol neu feddygol y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol mewn perthynas â’r achos.
3
Mewn perthynas ag achos person y mae adroddiad wedi ei lunio mewn cysylltiad ag ef yn unol â rheoliad 7(6), rhaid i’r panel maethu naill ai—
a
gofyn i’r darparwr gwasanaethau maethu lunio adroddiad ysgrifenedig pellach, sy’n cwmpasu’r holl faterion a nodir yn rheoliad 7(5)(c), neu
b
argymell nad yw’r person yn addas i fod yn rhiant maeth.
4
Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu gael unrhyw wybodaeth y mae’r panel maethu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac anfon yr wybodaeth honno i’r panel, a darparu unrhyw gynhorthwy arall y mae’r panel maethu yn gofyn amdano, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol.
5
Rhaid i’r panel maethu hefyd—
a
cynghori ar y gweithdrefnau y cynhelir adolygiadau oddi tanynt gan y darparwr gwasanaethau maethu yn unol â rheoliad 9, a monitro eu heffeithiolrwydd o bryd i’w gilydd,
b
goruchwylio’r ffordd y cynhelir asesiadau gan y darparwr gwasanaethau maethu, ac
c
rhoi cyngor a chynnig argymhellion ar unrhyw faterion eraill neu achosion unigol y mae’r darparwr gwasanaethau maethu yn eu hatgyfeirio iddo.
6
Rhaid i’r panel maethu hefyd wneud cofnod ysgrifenedig o’i drafodion a’r rhesymau dros ei argymhellion.
7
Yn y rheoliad hwn, ystyr “argymell” yw argymell i’r darparwr gwasanaethau maethu.