Paneli maethu4

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu gyfansoddi un neu ragor o baneli maethu, fel y bo angen, i gyflawni swyddogaethau panel maethu o dan y Rheoliadau hyn, a rhaid iddo benodi aelodau’r paneli o blith y personau sydd ar y rhestr ganolog gan gynnwys—

a

person, y mae rhaid iddo fod yn annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu, i gadeirio’r panel (gweler paragraff (7)), a

b

un neu ddau o bersonau a gaiff weithredu fel cadeirydd os yw’r person a benodwyd i gadeirio’r panel yn absennol neu os yw’r swydd honno yn wag (“yr is-gadeiryddion”).

2

Caniateir i banel maethu gael ei gyfansoddi ar y cyd gan unrhyw ddau neu ragor o ddarparwyr gwasanaethau maethu, ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r aelodau gael eu penodi drwy gytundeb rhwng y darparwyr gwasanaethau maethu, ar yr amod nad yw unrhyw aelod a benodir wedi ei gymeradwyo, neu erioed wedi ei gymeradwyo, fel rhiant maeth gan y naill neu’r llall neu unrhyw un neu ragor o’r darparwyr gwasanaethau maethu sy’n cyfansoddi’r panel ar y cyd.

3

Caiff darparwr gwasanaethau maethu dalu i unrhyw aelod o banel maethu a gyfansoddir ganddo unrhyw ffi a benderfynir ganddo, a hynny’n ffi o swm rhesymol.

4

Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu sicrhau bod digon o aelodau ar y panel maethu, a bod gan yr aelodau unigol rhyngddynt y profiad a’r arbenigedd sy’n angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau’r panel yn effeithiol.

5

Caiff unrhyw aelod o banel maethu ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi mis o rybudd yn ysgrifenedig i’r darparwr gwasanaethau maethu a’i penododd.

6

Pan fo darparwr gwasanaethau maethu o’r farn bod unrhyw aelod o’r panel maethu a benodwyd ganddo yn anaddas i barhau fel aelod o’r panel neu na all person o’r fath barhau fel aelod o’r panel, caiff derfynu penodiad yr aelod hwnnw ar unrhyw adeg drwy roi rhybudd yn ysgrifenedig iddo, gan nodi’r rhesymau dros y penderfyniad.

7

At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 6, nid yw person yn annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu—

a

os yw wedi ei gymeradwyo ar hyn o bryd gan y darparwr gwasanaethau maethu i fod yn rhiant maeth,

b

os yw’n perthyn i un o gyflogeion y darparwr gwasanaethau maethu, neu i unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r gwasanaeth hwnnw,

c

yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, os yw’r person yn aelod etholedig o’r awdurdod lleol hwnnw, neu wedi ei gyflogi gan yr awdurdod lleol hwnnw at ddibenion y gwasanaeth maethu neu at ddibenion unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod lleol hwnnw sy’n ymwneud ag amddiffyn neu leoli plant,

d

yn achos gwasanaeth maethu rheoleiddiedig, os yw’r person wedi ei gyflogi gan y gwasanaeth hwnnw neu yn un o ymddiriedolwyr y gwasanaeth hwnnw,

e

at ddibenion is-baragraff (b), mae person (“person A”) yn perthyn i berson arall (“person B”) os yw person A—

i

yn aelod o aelwyd person B, neu’n briod â pherson B neu’n bartner sifil i berson B;

ii

yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd person B, neu

iii

yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd y person y mae person B yn briod ag ef neu y mae person B wedi cofrestru partneriaeth sifil ag ef.