Y rhestr ganolog3
1
Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu gynnal rhestr o bersonau y mae’r darparwr yn ystyried eu bod yn addas i fod yn aelodau o banel maethu (“y rhestr ganolog”), gan gynnwys—
a
un neu ragor o weithwyr cymdeithasol a chanddynt o leiaf dair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso perthnasol, a
b
un neu ragor o bersonau sydd wedi gweithredu fel rhiant maeth, ar yr amod nad ydynt wedi eu penodi, ac nad ydynt erioed wedi eu penodi, yn rhiant maeth gan y darparwr gwasanaethau maethu y cyfeirir ato yn y paragraff hwn.
2
Caiff person sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr ganolog ofyn ar unrhyw adeg i’w enw gael ei ddileu o’r rhestr ganolog drwy roi mis o rybudd yn ysgrifenedig i’r darparwr gwasanaethau maethu.
3
Pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu o’r farn bod person sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr ganolog yn anaddas i aros ar y rhestr neu pan na all person o’r fath aros ar y rhestr, caiff y darparwr gwasanaethau maethu ddileu enw’r person hwnnw o’r rhestr drwy roi mis o rybudd yn ysgrifenedig iddo, gan nodi’r rhesymau dros y penderfyniad.
4
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), o ran aelod o’r rhestr ganolog—
a
caiff ddal swydd am dymor nad yw’n hwy na thair blynedd, a
b
ni chaiff ddal swydd fel aelod o restr ganolog yr un darparwr gwasanaethau maethu am fwy na thri thymor heb gyfnod o ysbaid yn y canol.
5
At ddibenion paragraff (4)(b), ystyr “cyfnod o ysbaid yn y canol” yw cyfnod di-dor o dair blynedd o leiaf pan nad oedd yr unigolyn o dan sylw yn aelod o’r rhestr ganolog yn ystod y cyfnod cyfan hwnnw.