- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu gynnal rhestr o bersonau y mae’r darparwr yn ystyried eu bod yn addas i fod yn aelodau o banel maethu (“y rhestr ganolog”), gan gynnwys—
(a)un neu ragor o weithwyr cymdeithasol a chanddynt o leiaf dair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso perthnasol, a
(b)un neu ragor o bersonau sydd wedi gweithredu fel rhiant maeth, ar yr amod nad ydynt wedi eu penodi, ac nad ydynt erioed wedi eu penodi, yn rhiant maeth gan y darparwr gwasanaethau maethu y cyfeirir ato yn y paragraff hwn.
(2) Caiff person sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr ganolog ofyn ar unrhyw adeg i’w enw gael ei ddileu o’r rhestr ganolog drwy roi mis o rybudd yn ysgrifenedig i’r darparwr gwasanaethau maethu.
(3) Pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu o’r farn bod person sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr ganolog yn anaddas i aros ar y rhestr neu pan na all person o’r fath aros ar y rhestr, caiff y darparwr gwasanaethau maethu ddileu enw’r person hwnnw o’r rhestr drwy roi mis o rybudd yn ysgrifenedig iddo, gan nodi’r rhesymau dros y penderfyniad.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), o ran aelod o’r rhestr ganolog—
(a)caiff ddal swydd am dymor nad yw’n hwy na thair blynedd, a
(b)ni chaiff ddal swydd fel aelod o restr ganolog yr un darparwr gwasanaethau maethu am fwy na thri thymor heb gyfnod o ysbaid yn y canol.
(5) At ddibenion paragraff (4)(b), ystyr “cyfnod o ysbaid yn y canol” yw cyfnod di-dor o dair blynedd o leiaf pan nad oedd yr unigolyn o dan sylw yn aelod o’r rhestr ganolog yn ystod y cyfnod cyfan hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: