Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “cyflogai” yr un ystyr ag “employee” yn adran 230(1) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 19962;
ystyr “cytundeb gofal maeth” (“foster care agreement”) yw’r cytundeb ysgrifenedig sy’n cwmpasu’r materion a bennir yn Atodlen 3 yr ymrwymir iddo rhwng y darparwr gwasanaethau maethu a’r rhiant maeth;
ystyr “darparwr gwasanaethau maethu” (“fostering services provider”) yw—
- a
darparwr gwasanaethau maethu awdurdod lleol;
- b
darparwr gwasanaethau maethu rheoleiddiedig;
- a
ystyr “darparwr gwasanaethau maethu awdurdod lleol” (“local authority fostering services provider”) yw’r awdurdod lleol sy’n darparu gwasanaethau maethu’r awdurdod lleol;
ystyr “darparwr gwasanaethau maethu rheoleiddiedig” (“regulated fostering services provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 o Ddeddf 2016 i ddarparu gwasanaeth maethu;
ystyr “darparwr gwasanaethau maethu yn Lloegr” (“fostering services provider in England”) yw—
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
ystyr “Deddf 2016” (“the 2016 Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20165;
ystyr “gwasanaeth maethu awdurdod lleol” (“local authority fostering service”) yw unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan awdurdod lleol sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu sy’n cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol, sef lleoli plant gyda rhieni maeth neu arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â lleoliad o’r fath, ac mae “gwasanaeth” (“service”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
ystyr “gwasanaeth maethu rheoleiddiedig” (“regulated fostering service”) yw unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 o Ddeddf 2016 i ddarparu gwasanaeth maethu;
ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol yn y gofrestr a gynhelir gan Ofal Cymdeithasol Cymru6 o dan adran 80 o Ddeddf 2016, yn Rhan 16 o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 20017 neu mewn cofrestr gyfatebol a gynhelir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
ystyr “lleoliad” (“placement”) yw lleoli plentyn gyda rhiant maeth o dan adran 81(5), (6)(a) a (b) o Ddeddf 2014;
ystyr “panel maethu” (“fostering panel”) yw panel a sefydlir yn unol â rheoliad 4;
ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 20038;
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 20159;
ystyr “rhestr ganolog” (“central list”) yw rhestr a sefydlir yn unol â rheoliad 3;
mae “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;
ystyr “rhiant maeth” (“foster parent”) yw person sydd wedi cael ei gymeradwyo fel rhiant maeth yn unol â’r Rheoliadau hyn.