Darpariaethau trosiannol14

1

Bernir bod unrhyw aelod o banel maethu a sefydlir o dan reoliad 24 o Reoliadau 2003 a arhosodd yn aelod o’r panel yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, o’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, wedi ei benodi’n aelod o banel a gyfansoddir o dan y Rheoliadau hyn am gyfnod sy’n cyfateb i weddill tymor y swydd y penodwyd y person amdano o dan Reoliadau 2003.

2

Pan fo panel maethu a sefydlir o dan reoliad 24 o Reoliadau 2003 yn dechrau ystyried achos a atgyfeirir iddo o dan adran 26(1) o’r Rheoliadau hynny ond yn gohirio gwneud argymhelliad tan ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, caiff y panel maethu barhau i ystyried yr achos hwnnw o dan Reoliadau 2003 fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.

3

Mewn achos pan oedd darparwr gwasanaeth maethu, fel y’i diffinnir yn Rheoliadau 200315, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym—

a

wedi dechrau, ond heb gwblhau, ei asesiad o ddarpar riant maeth o dan reoliad 27 o Reoliadau 2003,

b

wedi dechrau ystyried, ond heb wneud, ei benderfyniad i gymeradwyo person fel rhiant maeth o dan reoliad 28 o Reoliadau 2003,

c

wedi dechrau, ond heb gwblhau, ei adolygiad o gymeradwyaeth i riant maeth o dan reoliad 29 o Reoliadau 2003,

rhaid i’r darparwr gwasanaeth maethu gwblhau’r swyddogaethau hynny fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.