Cadw cofnodion a’u cyfrinachedd13

1

Rhaid cadw’r cofnodion a lunnir mewn perthynas â rhiant maeth o dan reoliad 11(1), ac unrhyw gofnod sy’n ymwneud â’r person hwnnw ar y rhestr a gynhelir o dan reoliad 12, am o leiaf ddeng mlynedd o’r dyddiad y caiff cymeradwyaeth y person hwnnw ei therfynu.

2

Rhaid cadw’r cofnodion a lunnir gan awdurdod lleol o dan reoliad 11(5) mewn perthynas â pherson y mae plentyn wedi ei leoli gydag ef o dan reoliad 26 neu reoliad 28 o Reoliadau 2015, ac unrhyw gofnod sy’n ymwneud â pherson o’r fath ar y rhestr a gynhelir o dan reoliad 12, am o leiaf ddeng mlynedd o’r dyddiad y caiff y lleoliad ei derfynu.

3

Rhaid cadw’r cofnodion a lunnir o dan reoliad 11(4) am o leiaf dair blynedd o’r adeg y caiff y cais i ddod yn rhiant maeth ei wrthod neu ei dynnu’n ôl, yn ôl y digwydd.

4

Rhaid i unrhyw gofnodion a gynhelir yn unol â rheoliad 11 neu 12 gael eu cadw’n ddiogel ac ni chaniateir iddynt gael eu datgelu i unrhyw berson ac eithrio—

a

yn unol ag unrhyw ddarpariaeth mewn statud, neu a wneir o dan neu yn rhinwedd statud, yr awdurdodir mynediad i gofnodion o’r fath oddi tani, neu

b

yn unol ag unrhyw orchymyn llys sy’n awdurdodi mynediad i gofnodion o’r fath.