Rhestr o rieni maeth12
Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu gynnal rhestr o rieni maeth a chofnodi ynddi y manylion a ganlyn mewn perthynas â phob rhiant maeth—
a
enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhyw pob rhiant maeth ac, yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhyw pob person y mae wedi lleoli plentyn gydag ef o dan reoliad 26 neu reoliad 28 o Reoliadau 2015,
b
dyddiad y gymeradwyaeth a dyddiad pob adolygiad o gymeradwyaeth (yn ôl y digwydd), ac
c
telerau cyfredol y gymeradwyaeth (os oes rhai).