Cofnodion achos sy’n ymwneud â rhieni maeth ac eraill11

1

Rhaid i ddarparwr gwasanaethau maethu gynnal cofnod achos ar gyfer pob rhiant maeth sydd wedi ei gymeradwyo gan y darparwr a rhaid iddo gynnwys copïau o’r dogfennau a bennir ym mharagraff (2) a’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3).

2

Y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw, yn ôl y digwydd—

a

yr adroddiad a lunnir o dan reoliad 7(5)(c) ac unrhyw adroddiadau eraill a gyflwynir i’r panel maethu,

b

yr hysbysiad o gymeradwyaeth a roddir o dan reoliad 8(5)(a),

c

unrhyw adroddiad ar adolygiad o gymeradwyaeth a lunnir o dan reoliad 9(4)(a),

d

unrhyw hysbysiad a roddir o dan reoliad 9(12),

e

y cytundeb gofal maeth sy’n nodi’r materion a’r rhwymedigaethau a restrir yn Atodlen 3, ac

f

unrhyw argymhellion a wneir gan y panel maethu.

3

Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw, yn ôl y digwydd—

a

cofnod o bob lleoliad gyda’r rhiant maeth gan gynnwys enw, oedran a rhyw pob plentyn sydd wedi ei leoli, dyddiad dechrau a therfynu pob lleoliad ac amgylchiadau’r terfyniad,

b

yr wybodaeth a gaiff y darparwr gwasanaethau maethu mewn perthynas ag asesu a chymeradwyo’r rhiant maeth ac mewn perthynas ag unrhyw adolygiad o’r gymeradwyaeth neu ei therfynu.

4

Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu lunio cofnod ar gyfer pob person nad yw’n ei gymeradwyo’n rhiant maeth, neu y mae ei gais wedi ei dynnu’n ôl cyn ei gymeradwyo, a rhaid iddo gynnwys, mewn perthynas â’r person—

a

yr wybodaeth a geir mewn cysylltiad â’r asesiad,

b

unrhyw adroddiad a gyflwynir i’r panel maethu ac unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu, ac

c

unrhyw hysbysiad a roddir o dan reoliad 8.

5

Rhaid i ddarparwr gwasanaethau maethu awdurdod lleol hefyd gynnal cofnod achos ar gyfer pob person y mae plentyn wedi ei leoli gydag ef o dan reoliad 26 o Reoliadau 2015 (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad â phlentyn) neu o dan reoliad 28 o’r Rheoliadau hynny (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth) a rhaid iddo gynnwys mewn perthynas â’r person hwnnw—

a

cofnod mewn perthynas â’r lleoliad, gan gynnwys enw, oedran a rhyw pob plentyn sydd wedi ei leoli, dyddiad dechrau’r lleoliad ac, os yw’r lleoliad wedi ei derfynu, dyddiad ac amgylchiadau’r terfyniad, a

b

yr wybodaeth a geir mewn perthynas â’r ymholiadau a wneir o dan reoliad 26(2) neu reoliad 28 (fel y bo’n briodol) o Reoliadau 2015.